Galwad yn Agor
Galwad yn Cau am 4pm
Canlyniad
Cychwyn y Prosiectau
Adroddiad Interim
Adroddiad Terfynol
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Cynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil. Ein nod ydy ariannu gweithdai sy’n hyrwyddo cydweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sectorau a sefydliadau, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol. Yn yr rownd hon, byddwn yn gallu ariannu hyd at 18 o brosiectau ar gyfer sefydliadau yng Nghymru. Bydd gan y rownd hon o geisiadau bedair ffrwd y gall ymchwilwyr wneud cais amdanynt.
Mae hyd at £1000 ar gael ar gyfer pob prosiect. Gall gweithdai o dan ffrwd Llwybrau at Heddwch, sy’n cynnwys partner rhyngwladol, wneud cais am hyd at £2000.
Cyn cyflwyno’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dogfennau canllaw canlynol yn ofalus:
Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy ein ffurflen ar-lein, trwy’r ddolen isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 31 Hydref 2024 am 4pm. Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.