Cefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar

Cliciwch yma i fynd yn ôl at brif dudalen Apêl y Dengmlwyddiant

Yn gynharach eleni, sefydlwyd rhwydwaith cenedlaethol, trawsddisgyblaethol gennym ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar. Mae dros 400 o bobl eisoes wedi ymuno â’r rhwydwaith ac ym mis Tachwedd, fe gynhaliom ein seminar Zoom am ddim cyntaf – gydag 80 o ymchwilwyr yn bresennol.

Rydym eisiau mynd ymhellach, ac yn y pen draw, sefydlu Academi Gyrfaoedd Cynnar i Gymru. Bydd eich rhodd yn ein helpu i gynnal a datblygu ein rhwydwaith, fel cam tuag at yr uchelgais hwn. Gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi ymchwilwyr i:

  • Cynnig llwyfan i rannu ymchwil, datblygu cynigion a chydweithio ar her allweddol sy’n wynebu Cymru a’r byd
  • Lansio rhwydwaith genedlaethol o ymchwilwyr sydd â diddordebau cyffredin ar draws sefydliadau academaidd, y llywodraeth a’r trydydd sector
  • Cefnogi cenhadaeth ddinesig y sector AU yng Nghymru
  • Datblygu tystiolaeth ac ysgogiad ar gyfer datblygu’r Academi Gyrfa Gynnar