Strategaethau Arloesi i Gymru

Download Publication

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal rhaglen o weithgareddau i helpu i lywio a gwella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru.  Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan yr Athro Rick Delbridge, cynghorydd arbennig i’r Llywydd ar arloesi, ac yn cael ei chefnogi gan Dr Sarah Morse, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus y Gymdeithas a Dr Justyna Prosser, ein Cynorthwyydd Polisi llawrydd.

Mae hon yn rhaglen amserol o ystyried cyhoeddi Strategaeth Arloesi BEIS ar gyfer y DU, Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, pwysigrwydd cynyddol agenda seiliedig ar le, ac ymrwymiad llywodraeth y DU i adolygu gwariant i gynyddu gwariant ar ymchwil a datblygu 35%, i £20 biliwn yn ystod y 3 blynedd nesaf.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei pholisïau arloesi ac ar hyn o bryd, mae’n datblygu strategaeth drawslywodraethol integredig newydd ar gyfer arloesi a fydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn newid y dirwedd ar gyfer ymchwil ac arloesi o fewn AU.

Mae’r drafodaeth gyntaf, a oedd yn ystyried y cyd-destun, y datblygiadau, a ble nesaf ar gyfer polisïau arloesi i Gymru, ar gael yma.