Galwad am Gynigion

Mae'r Galwad am Gynigion wedi cau.

I gyflwyno cynnig am sgwrs fflach neu boster, bydd angen i chi lenwi ein ffurflen Galwad am Gynigion.

Rydym eisiau clywed gan Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar sy’n adeiladu eu gyrfaoedd i rannu eu gwaith, wrth ystyried natur ryngddisgyblaethol ymchwil.  Rydym yn eu hannog i adlewyrchu ar y rôl y gall eu hymchwil ei chwarae wrth gyfrannu at greu Cymru lewyrchus a lles cenedlaethau’r dyfodol.  Rydym yn croesawu cyflwyniadau o bob maes pwnc a allai gyfrannu at greu Cymru sy’n mesur ffyniant nid yn unig yn economaidd, ond hefyd fel rhan o’r broses o les cymdeithasol.   

Gallai pynciau posibl gynnwys ymchwil sy’n cyfrannu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol at:

• Y newid i gymdeithas carbon isel;

• Greu sgiliau ar gyfer y dyfodol;

• Annog diwylliant o waith dechau;

• Iechyd pobl Cymru;

• Ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus;

• Gymunedau deniadol, hyfyw, diogel ac sydd â chysylltiadau da;

• Fwy o gydraddoldeb sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial

• Wydnwch ecolegol yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr elfen hon o Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yma, i’w adolygu cyn cyflwyno unrhyw gynigion.

Canllawiau cyflwyno

Teitl y Cynnig: Dylai’r teitl fod yn gryno ac yn ddisgrifiadol

Crynodeb: Trosolwg byr, lefel-uchel o’r ymchwil a sut mae’n ymwneud â’r thema Creu Cymru Lewyrchus. (uchafswm o 250 gair)  Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr elfen hon o Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yma.  Rydych yn cael eich annog i ddarllen trwy hyn cyn ysgrifennu eich cyflwyniad.

Gofynion Arbennig: Nodwch yr angen am unrhyw wasanaeth cyfieithu ar y pryd neu am unrhyw anghenion ychwanegol.   Gallwch gyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg.  Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol, hoffem ddarparu ar eu cyfer.

Eich teitl swydd/rôl: Os ydych chi’n dal i fod yn fyfyriwr, rhowch wybod i ni yma.

Enw a chyfeiriad y sefydliad: Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru.  Gallai cyflwyniadau fod gan Brifysgol, Sefydliad Ymchwil, sefydliad Sector Cyhoeddus neu sefydliad y Trydydd Sector, neu gan gwmni sector preifat.

Nid ydym yn pennu’r nifer o flynyddoedd ar ôl PhD er mwyn cael eich ystyried yn Ymchwilydd Gyrfa Gynnar, ond gofynnir i chi egluro pam eich bod yn perthyn i’r categori hwn.  Os nad ydych yn fyfyriwr PhD neu’n Ymchwilydd Gyrfa Cynnar, rhowch wybod i ni ar ba gam rydych chi yn eich gyrfa (Ymchwilydd canol gyrfa; ymchwilydd ôl-raddedig; Uwch Ymchwilydd, Prif Ymchwilydd)

Adolygu , Detholiad a Hysbysiadau

Bydd y cyflwyniadau’n cael eu hadolygu gan drefnwyr y Gynhadledd Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar.  Rydym yn rhagweld dewis pum sgwrs dros ystod eang o feysydd, a bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i’r rheini sy’n ystyried eu hunain yn Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, ac sydd wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru.  Mae’n rhaid i’r ymchwil ddangos cyswllt â’r thema Creu Cymru Lewyrchus. 

Gyda phob cyflwyniad, mae gan drefnwyr yr hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol, gofyn i newidiadau gael eu gwneud i wella cyflwyniad, neu wrthod cyflwyniad sydd yn ein barn ni, ddim yn berthnasol i’r cyfarfod. Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau ar ôl i gynigion gael eu cyflwyno, oni bai ein bod wedi gofyn yn benodol am y newid hwnnw. Dylech ail-ddarllen eich cyflwyniad cyn i chi ei gwblhau, i sicrhau nad oes unrhyw wallau sillafu neu ramadeg yn y cyflwyniad.

Os nad ydych yn cael eich dewis ar gyfer sgwrs fflach, byddwn yn ystyried eich cyflwyniad yn awtomatig ar gyfer poster neu le i arddangos allbwn ymchwil.