Cefnogi ddigwyddiadau

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cynnig grantiau bach i gefnogi trefnu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar draws Cymru bob blwyddyn. Does dim angen i chi fod yn Gymrawd i ymgeisio am y cyllid hwn.

I ymgeisio am gyllid, cwblhewch y ffurflen hon.

Caiff cynigion eu hystyried yn gyntaf gan y staff, ac os bydd angen, y Grŵp Gweithredol. Nodwch gynfod paratoi o dri mis ar gyfer unrhyw ddigwyddiad a gynigir.

Asesu

Dylai pob cais amlinellu sut y byddai’r digwyddiad arfaethedig yn cyfrannu at o leiaf un o flaenoriaethau strategol y Gymdeithas:

  • Hyrwyddo ymchwil arloesol
  • Estyn y tu hwnt i’r byd academaidd at lunwyr polisi a dylanwadwyr
  • Hyrwyddo dysg a thrafodaeth i gynulleidfa ehangach
  • Cynyddu’r nifer o Gymrodyr sy’n cyfrannu’n weithredol at waith y Gymdeithas

Cydnabyddiaeth i’r Gymdeithas

Rhaid i’r holl ddigwyddiadau sy’n derbyn cefnogaeth uniongyrchol gan y Gymdeithas grybwyll cefnogaeth y Gymdeithas ym mhob hysbysiad a marchnata cyhoeddus yn y wasg/digidol, yn cynnwys logo’r Gymdeithas.

Ar y dudalen hon fe welwch ganllawiau brand, ein logo at ddefnydd hyrwyddo a’r wybodaeth gywir ddiweddaraf am y Gymdeithas.

I ymgeisio am gyllid, cwblhewch y ffurflen hon.