Y rolau allweddol sydd bellach ar agor i Gymrodyr – gwnewch gais

Mae’n bleser gennym wahodd Cymrodyr i wneud cais i ymuno â Phwyllgorau y Gymdeithas. Mae’r rolau hyn yn hanfodol i’n harweinyddiaeth strategol, ac yn rhoi’r cyfle i chi helpu i osod uchelgeisiau a chyfeiriad y Gymdeithas yn y dyfodol.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol am bob swydd. Os byddwn yn derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd etholiad yn cael ei chynnal.
Cydbwysedd rhwng y rhywiau
Mae’r Cyngor wedi gwneud ymrwymiad o’r newydd i gadw cydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn y Gymrodoriaeth ac ar ein pwyllgorau. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn arbennig ar gyfer yr holl rolau hyn.
Cyfnodau’r swydd
Y cyfnod swydd ar gyfer pob swydd yw tair blynedd, o CCB 2023 tan CCB 2026. Ar ôl hynny, gall penodeion newydd wneud cais i wasanaethu am un tymor arall o dair blynedd.
Sylwer, os oes aelodau presennol yn gymwys i gael eu hail-ethol am ail dymor (fel y nodir isod), bydd yn rhaid iddynt ailymgeisio a sefyll mewn etholiad.
Y Cyngor – 5 swydd
Y Cyngor yw ein bwrdd ymddiriedolwyr. Mae’r Aelodau’n gyfrifol am lywodraethu, strategaeth a chynlluniau cyffredinol y Gymdeithas, sy’n Elusen Siarter Frenhinol. Mae’r Cyngor yn sicrhau bod y Gymdeithas yn cydymffurfio â’i dogfen lywodraethu a’r gyfraith, a’i bod yn rheoli ei hadnoddau’n gyfrifol.
Eleni, mae cyfanswm o 5 swydd ar gael ar y Cyngor. O’r rhain, mae’r 5 yn aelodau presennol o’r Cyngor sy’n gymwys i gael eu hail-ethol ac sydd wedi nodi eu parodrwydd i wneud cais eto:
- Yr Athro Claire Gorrara (presenoldeb – 11 allan o 14 cyfarfod posibl ers ei ethol yn 2020)
- Yr Athro Alma Harris (presenoldeb – 6 allan o 14 cyfarfod posibl ers ei ethol yn 2020)
- Yr Athro Qiang Shen (presenoldeb – 11 allan o 14 cyfarfod posibl ers ei ethol yn 2020)
- Yr Athro John V Tucker (presenoldeb – 13 allan o 14 cyfarfod posibl ers ei ethol yn 2020)
- Yr Athro Meena Upadhyaya (presenoldeb – 11 allan o 14 cyfarfod posibl ers ei ethol yn 2020)
Mae pob swydd yn agored i holl Gymrodorion y Gymdeithas. Gweler isod am wybodaeth am sut i wneud cais.
Y broses gwneud cais
I wneud cais am unrhyw un o swyddi, llenwch y ffurflen hon:
Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen(ni), dychwelyd y ffurflen(ni) erbyn dydd Gwener 10 Mawrth i Amanda Kirk – clerk@lsw.wales.ac.uk
Ar ôl y dyddiad cau, os ydym wedi derbyn digon o geisiadau dilys i’w gwneud yn ofynnol i etholiad gael ei gynnal, byddwn yn anfon pleidleisiau i Gymrodyr yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 13 Fawrth, i’w dychwelyd erbyn dydd Llun 4 Ebrill. Bydd holl Gymrodyr y Gymdeithas yn gymwys i bleidleisio. Bydd y pleidleisiau yn cynnwys datganiadau ategol yr ymgeiswyr.
Cysylltwch ag Amanda os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y broses etholiadol.
Rhagor o wybodaeth
Beth i’w ddisgwyl fel aelod o’r Cyngor
Mae’r Cyngor fel arfer yn cyfarfod pedair gwaith bob blwyddyn.
Mae cyfarfodydd Mehefin ac Tachwedd tua 2-3 awr o hyd fel arfer. Ym mis Mawrth, mae’r Cyngor yn cael cyfarfod cyffredinol a Chyfarfod Arbennig ar yr un diwrnod, sy’n gyfanswm o 4-5 awr. Yn y Cyfarfod Arbennig, bydd Aelodau’r Cyngor yn cytuno ar y rhestr derfynol o enwebeion Cymrodoriaeth sydd i’w cyflwyno i’r Gymrodoriaeth bresennol ar gyfer etholiad.
Yn ogystal â’r cyfarfodydd eu hunain, y prif ymrwymiad amser i Aelodau’r Cyngor yw darllen y papurau ar gyfer pob cyfarfod. Gall ymrwymiadau dewisol eraill gynnwys:
- Cymryd rhan mewn gweithgorau a sefydlwyd gan y Cyngor
- Ymuno â phwyllgorau Cymdeithas eraill fel cynrychiolydd Cyngor
- Cynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau allanol
Bydd Cymrodyr sy’n cael eu hethol yn aelodau o’r Cyngor yn cael cyflwyniad i rôl, strategaeth a gweithdrefnau’r Gymdeithas.
Efallai y byddwch eisiau datgan hefyd, mai dim ond Aelodau’r cyngor sy’n gymwys i gael eu hethol yn Is-lywydd y Gymdeithas.
Rheolau a rheoliadau
Mae ein Rheoliadau, sy’n llywodraethu’r Cyngor a’n holl bwyllgorau, ar gael yma