REF2021: Galw am Enwebiadau Ychwanegol i Is-baneli
Mae pedwar corff cyllido’r DU yn gwahodd enwebiadau am aelodau ac aseswyr ychwanegol i is-baneli’r REF.
Bydd penodiadau pellach yn sicrhau bod gan bob is-banel ehangder priodol o arbenigedd a’r nifer o aelodau panel sydd eu hangen ar gyfer asesu cyflwyniadau REF. Bydd is-baneli’n ystyried enwebiadau newydd ochr yn ochr ag ymgeiswyr a enwebwyd yn 2017 ond na phenodwyd mohonynt ar y pryd hwnnw.
Fel y byddwch yn gwybod, cafwyd pryderon na chafwyd digon o gynrychiolaeth o SAUau Cymru mewn ymarferion asesu blaenorol.
Mae croeso arbennig i enwebiadau gan ymgeiswyr o grwpiau sydd yn y gorffennol wedi’u tangynrychioli ar baneli asesu, gan gynnwys menywod, pobl o gefndiroedd du a lleiafrifol ethnig, a phobl anabl.
Mae’r Gymdeithas yn gorff enwebu ac mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cytuno i enwebu Cymrodyr sydd â diddordeb mewn cyfranogi. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn, edrychwch ar y ddogfen hon, sy’n egluro’r meysydd arbenigedd penodol lle mae enwebiadau’n cael eu ceisio. Os ydych chi’n meddu ar yr arbenigedd perthnasol, ac yn dymuno cael eich enwebu gan y Gymdeithas, cysylltwch â Dr Sarah Morse cyn gynted â phosibl, a chyn 28 Awst ar yr hwyraf.