Sut i wneud enwebiad
Bob blwyddyn, mae’r Gymdeithas yn dyfarnu medalau i ddathlu rhagoriaeth mewn nifer o feysydd cyflawniad. Mae croeso i unrhyw un gyflwyno enwebiad am unrhyw rai o’r categorïau.

Dyddiad cau enwebiadau medalau 2020-21 yw 5.00pm ar 30 Mawrth 2021.
Mae gan bob medal bwyllgor penodol i asesu’r enwebiadau a phenderfynu pwy a ddylai dderbyn y wobr. Bydd pob enillydd yn derbyn medal wedi’i bathu’n arbennig a gwobr ariannol a gyflwynir yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar 19 Mai 2021.
Ffurflen enwebu
Darllenwch y canllawiau hyn cyn cwblhau’r ffurflen enwebu am fedal:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog Cymrodoriaeth, Fiona Gaskell.
Cymhwyster
I fod yn gymwys ar gyfer unrhyw rai o’n medalau, rhaid i’r enwebeion fyw yng Nghymru, fod wedi’u geni yng Nghymru neu â chysylltiad penodol arall â Chymru. Nid oes cyfyngiad oed, ac mae’r rheini sydd ar doriad gyrfa yn gymwys.
Categorïau medalau
Cliciwch i ddarllen mwy:
- Medalau Dillwyn – ar gyfer Rhagoriaeth Ymchwil Gyrfa Gynnar
- Medal Frances Hoggan – ar gyfer Menywod Rhagorol mewn STEMM
- Medal Hugh Owen – ar gyfer Ymchwil Addysgol Rhagorol
- Medal Menelaus – ar gyfer Rhagoriaeth mewn Peirianneg a Thechnoleg
Rheoliadau
Mae Rheoliadau ffurfiol y medalau ar gael yma: