Croeso i’n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno pedwar o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2023, sy’n gweithio o fewn iaith, llenyddiaeth a hanes a damcaniaeth y celfyddydau creadigol a pherfformio

Yr Athro Sarah Hill FLSW

Sarah Hill

Athro Cyswllt - Cerddoriaeth Boblogaidd
Prifysgol Rhydychen

Mae Dr Sarah Hill yn Athro Cyswllt ac yn Gymrawd yng Ngholeg San Pedr, Prifysgol Rhydychen. Bu’n Gwasanaethu fel Cadeirydd cangen y DU/Iwerddon y Gymdeithas Ryngwladol er Astudio Cerddoriaeth Boblogaidd. Ei gwaith academaidd ar gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yw’r cyntaf o’i fath, a chyfeirir ato’n eang. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar hanesyddiaeth cerddoriaeth boblogaidd yr 20fed ganrif. Mae gwaith ac ysgrifau Dr Hill wedi cyfrannu’n sylweddol at ddealltwriaeth fyd-eang o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Hill.

Dr. Dawn Knight FLSW

Darllenydd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol
Prifysgol Caerdydd

Dawn Knight

Ieithydd Cymhwysol yw Dr. Knight a chanddi arbenigedd ym maes Ieithyddiaeth Gorpws, Dadansoddi Disgwrs, ac Amlfoddolrwydd. Mae ei gwaith ymchwil wedi cyfrannu at ddatblygu fframweithiau ac ymagweddau methodolegol arloesol i adeiladu a dadansoddi corpora ieithyddol, yn enwedig yng nghyd-destun y Gymraeg. Mae Dr Knight, sy’n aelod o’r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu wedi cymryd rhan fel Prif Ymchwiliwr neu Gyd-ymchwiliwr mewn ystod o brosiectau ymchwil a gyllidir yn allanol, a chanddynt gyfanswm o tua £3.6m mewn cyllid allanol.

Darllenwch fwy am waith Dr. Knight

Yr Athro Enlli Thomas FLSW

Enlli Thomas

Athro mewn Ymchwil Addysg
Prifysgol Bangor

Mae’r Athro Thomas ymhlith sylfaenwyr cynnar a dylanwadol addysgu cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch. Ei phrif ddiddordebau ymchwil a’i harbenigedd yw ymagweddau seicoieithyddol at astudio’r broses o gaffael iaith mewn sefyllfa ddwyieithog; asesu dwyieithrwydd; ac ymagweddau addysg at drosglwyddo, caffael a defnyddio iaith. Mae agweddau ar ei gwaith wedi cael effaith uniongyrchol ar bolisi iaith mewn addysg, ac ar weithdrefnau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Thomas.

Dr. Huw Walters FLSW

Wedi ymddeol, gynt Bennaeth Uned Llyfryddiaeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Dr. Walters yn ffigur amlwg ym meysydd llenyddiaeth, hanes a diwylliant Cymru, gyda ffocws arbennig ar ddiwylliant Cymreig yng nghymoedd De Cymru ar ôl y Chwyldro Diwydiannol. Fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol am ei lyfryddiaeth dwy gyfrol o gyfnodolion Cymreig 1735-1900. Y mae hefyd yn arbenigwr mewn gweisg cyfnodolion, yng Nghymru a thros Fôr Iwerydd.