Cyn-athro ysgol gynradd yng Nghaerdydd yw’r Athro Beauchamp. Mae ganddo broffil rhyngwladol, yn enwedig o ran y defnydd o dechnolegau rhyngweithiol wrth ddysgu ac addysgu, o’r blynyddoedd cynnar hyd at y brifysgol. Mae ei gyfraniad at ddatblygiad Fframwaith Cymhwysedd Digidol arloesol Llywodraeth Cymru yn dangos dylanwad ei arbenigedd ar bolisi addysg yng Nghymru.
Mae’r Athro Tales yn cynnig persbectif rhyngddisgyblaethol unigryw i’r ddealltwriaeth o ddementia. Mae hi’n arwain amryw o fentrau ymchwil o bwys sy’n canolbwyntio ar heneiddio a dementia, ac wedi mentora’r genhedlaeth nesaf o academyddion ac ymarferwyr yn y maes hwn. Drwy ei gwaith arloesol ar nam gwybyddol fasgwlar a dementia fasgwlar mae hi wedi gwneud cyfraniad gwreiddiol i’r maes, ac mae ei phrosiectau ar y cyd â gwyddonwyr clinigol a chymdeithasol wedi helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia.
Cydnabyddir arbenigedd yr Athro Thompson yn rhyngwladol ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, cymdeithaseg, addysg ac angeueg. Mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at y disgyblaethau hyn drwy ei holl gyhoeddiadau helaeth ac amrywiol, sy’n rhychwantu’r byd academaidd a’r byd clinigol. O ganlyniad i hyn, mae ei waith wedi cael ei gyfieithu i amryw o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, Tyrceg, Pwyleg, Eidaleg, Sbaeneg, Tsieineeg a Japaneeg.