Croeso i’n Cymrodyr Newydd

Cyflwyno'r chwe Cymrodyr newydd a sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2023 sy'n chwarae rolau arwain yn y sectorau proffesiynol, addysgol a chyhoeddus.

Arweinyddiaeth broffesiynol, addysgol a sector cyhoeddus

Kellie Beirne FLSW

Kellie Beirne

Cyfarwyddwr a Prif Weithredwr Interim, Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-Ddwyrain Cymru
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Kellie Beirne yw Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n gyfrifol am gwblhau rhaglen fuddsoddi gwerth £1.2bn ar draws deg awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru. Mae Kellie Beirne yn aelod o Gyngor Ymchwil Lloegr ac mae ganddi brofiad eang o’r byd academaidd ac o’r sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol

Darllenwch fwy am waith Kellie Beirne

Dr. Ben Calvert FLSW

Is-Ganghellor a Prif Weithredwr
Prifysgol De Cymru

Mae Dr. Ben Calvert, sydd bellach yn Is-ganghellor ym Mhrifysgol De Cymru, wedi chwarae rhan ganolog wrth arwain Addysg Uwch yng Nghymru ers blynyddoedd. Fel Cadeirydd Grŵp Canllawiau Covid AU Llywodraeth Cymru, bu’n llywio’r sector yn ei ymateb i’r argyfwng. Cafodd ei enwi’n ddiweddar yn Gadeirydd Cymru Fyd-eang, sy’n tystio i’r parch a geir tuag ato o fewn y llywodraeth ac AU.

Darllenwch fwy am Dr. Calvert

Dr. Charles Mynors FLSW

Charles Mynors

Cyfreithiwr ac Awdur
Comisiwn Cyfraith Cymru a Lloegr

Bargyfreithiwr profiadol yw Charles Mynors, a chanddo gyfuniad unigryw o gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau ym maes pensaernïaeth, cynllunio, tirfesur, y gyfraith ac adeiladau hanesyddol; a bu am flynyddoedd lawer yn ganghellor esgobaethol. Mae wedi ysgrifennu amryw o lyfrau, a ystyrir yn ffynonellau cyfeirio safonol. Mae ganddo Charles ddiddordeb arbennig mewn diwygio’r gyfraith ac yn awr yn gweithio i Gomisiwn y Gyfraith ar brosiect gan Lywodraeth Cymru i symleiddio deddfwriaeth ar gynllunio a’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, sy’n rhan o ymdrech fwy i gyfundrefnu cyfraith statud yng Nghymru.

Darllenwch fwy am Dr. Mynors

Ray Singh FLSW

Rheolwr / Cydlynydd
Glamorgan House Family Development Centre

Ray Singh oedd y barnwr cyntaf yng Nghymru o leiafrif ethnig, ac mae wedi gweithio fel Dirprwy Farnwr a Barnwr Rhanbarth Preswyl. Dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae’r Barnwr Singh wedi gweithio’n ddiflino gyda gwahanol sefydliadau cyhoeddus a phreifat i fynd i’r afael â hiliaeth. Ffocws y rhan fwyaf o’i waith fu sicrhau triniaeth deg a chydraddoldeb i fenywod, plant a lleiafrifoedd ethnig.

Darllenwch fwy am Ray Singh

Yr Athro Syr Steve Smith FLSW

Steve Smith

Cynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog ar gyfer Addysg yn Saudi Arabia a Hyrwyddwr Addysg Ryngwladol Llywodraeth y DU

Yr Athro Syr Steve Smith yw Hyrwyddwr Addysg Ryngwladol Llywodraeth y DU a Chynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog ar gyfer Addysg yn Saudi Arabia. Cyn hynny bu’n Is-Ganghellor Prifysgol Caerwysg rhwng 2002 a 2020. Mae ei effaith ar y gymuned academaidd yn ymestyn y tu hwnt i’r DU, ac mae ei swydd fel llywydd y corff academaidd byd-eang yn ei faes (Y Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol) a Phrifysgolion y DU yn tystio i hynny. Cafodd ei urddo’n farchog am ei gyfraniad at addysg uwch ar raddfa leol a chenedlaethol.

Darllenwch fwy am Yr Athro Syr Steve Smith

Yr Athro Laurence Williams FLSW

Athro Polisi a Rheoleiddio Niwclear Sêr Cymru
Prifysgol Bangor

Mae’r Athro Williams, Athro Polisi a Rheoleiddio Niwclear Sêr Cymru ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei ystyried yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes rheoliadau diogelwch niwclear. Mae wedi dal nifer o swyddi mewn brifysgolion ac wedi cael gyrfa hir yng ngwasanaeth y llywodraeth gan gynnwys bod yn Brif Arolygydd Ei Mawryddi dros Gosodiadau Niwclear, ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu polisïau a safonau’n gysylltiedig â diogelwch, diogelu a rheoleiddio niwclear yn y DU a thrwy’r byd.

Darllewnch fwy am Yr Athro Williams