Cafodd yr Athro Bryant ei hyfforddi fel milfeddyg, ac mae hi’n aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon, er bod llawer o’i gwaith hefyd yn ymwneud â bioleg dynol. Mae hi’n arbenigo ym maes imiwnedd cynhenid, sef un o’r llinellau amddiffyn cyntaf yn erbyn antigenau, deunyddiau niweidiol sy’n dod i mewn i’r corff. Mae hyn wedi arwain at waith yn datblygu meddyginiaethau i drin alergeddau a chlefyd Alzheimer.
Mae gwaith yr Athro Rachel Collis ar anaesthesia obstetryddol wedi gwella rheolaeth glinigol a safonau gofal menywod drwy’r byd. Mae rhan helaeth iawn o’i gwaith yn ymwneud â rhoi gofal uniongyrchol i gleifion, a’i gwaith ymchwil dilynol yn seiliedig ar brofiad clinigol cyfredol o leihau poen wrth eni.
Mae’r Athro Jamie Davies, Athro Anatomeg Arbrofol ym Mhrifysgol Caeredin, yn gweithio ar ddatblygiad embryonig yr arennau. Yn sgil ei ymchwil, bu modd creu arennau bach o fôn-gelloedd, gan gyflwyno gwelliannau mawr i astudiaethau datblygu’r arennau, profi cyffuriau a thriniaethau clefyd yr arennau.
Mae’r Athro Hunt yn ffigwr dylanwadol ym meysydd gofal iechyd clinigol ac academaidd yn y DU. Mae hi wedi chwarae rhan hollbwysig er mwyn datblygu clinigwyr ac ymchwilwyr yng Nghymru, ac wedi annog a helpu academyddion nyrsio a bydwreigiaeth a chlinigwyr y GIG i wneud cais am grantiau, dosbarthu ymchwil ac ysgrifennu papurau. Mae’r Athro Hunt yn aelod o Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Mae ei chyfraniadau i wella iechyd pobl Cymru, y GIG, ymchwil ac addysg wedi bod yn rhagorol.
Fel Pennaeth yr Adran Canserau Solet yn Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd, mae’r Athro Parker yn arbenigo mewn datblygu firotherapïau tiwmor dethol, sy’n targedu ac yn heintio celloedd canser heb heintio nac effeithio ar gelloedd normal. Mae ei waith, a’r triniaethau posibl y mae’n eu cynhyrchu, yn cael ei drafod yn rheolaidd yn y cyfryngau, ac mae’n defnyddio pwysigrwydd ei waith (a’r cyffro yn ei gylch) mewn gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu.