Croeso i’n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno tri o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2023, sy’n gweithio o fewn y gwyddorau cellol, esblygol, organebol ac ecosystem.

Yr Athro Nigel Brown FLSW

Nigel Brown

Wedi Ymddeol; Athro Emeritws Microbioleg Foleciwlaidd
Prifysgol Caeredin

Biolegydd moleciwlaidd yw’r Athro Brown, sydd hefyd yn arbenigo mewn ymwrthedd metel i facteria. Bu cynnydd ym mhwysigrwydd agweddau arall ei waith yn ystod Rhyfel y Gwlff wrth asesu’r risg y gallai anthracs gael ei ryddhau fel bioarf. Mae’n ffigur dylanwadol ym maes gwyddoniaeth yn y DU yn sgil ei rolau arweinyddol mewn prifysgolion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn ogystal â’i rôl gyfredol fel aelod o banel Sêr Cymru II.

Darllenwch fwy am waith yr Athro Brown.

Yr Athro Hazel Davey FLSW

Hazel Davey

Athro Bioleg
Prifysgol Aberystwyth

Mae’r Athro Hazel Davey yn ymchwilio i furum pobi, a ddefnyddir yn eang wrth gynhyrchu bwyd a bragu, mewn biodechnoleg ac fel organeb enghreifftiol mewn ymchwil academaidd. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau sy’n ymwneud â llawer o sefydliadau y tu allan i addysg uwch, gan gynnwys Byddin yr Unol Daleithiau, i adnabod micro-organebau mewn samplau amgylcheddol fel rhan o brosiect i amddiffyn rhag arfau biolegol.

Darllenwch fwy am waith yr Athro Davey

Yr Athro John Witcombe FLSW

Athro Emeritws
Prifysgol Bangor

Mae’r Athro Witcombe yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ymchwil arloesol i feithrin planhigion er mwyn lliniaru tlodi a phrinder bwyd mewn cymunedau difreintiedig. Dyfeisiodd fethodoleg sy’n golygu bod planhigion yn cael eu meithrin yn fwy effeithlon, drwy ddewis llai o rieni nag sy’n arferol drwy ddefnyddio â nodweddion dymunol, yn unol â dewis ffermwyr. Mae’r gwaith hwn, sy’n canolbwyntio ar gleientiaid, wedi cael effaith gadarnhaol ar dros bum miliwn o aelwydydd yn India, Nepal a Bangladesh, yn cael ei gymhwyso gan eraill mewn llawer o wledydd sy’n datblygu.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Witcombe.