Mae’r Athro Andrew Evans, Athro Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith mewn ffiseg arbrofol gyda ffocws ar wyddor arwynebeddau a defnyddiau. Mae’n teimlo yr un mod angerddol o blaid gwella mynediad at wyddoniaeth, yn enwedig yng Nghymru, fel y dangosir drwy waith ymroddedig gydag ysgolion, gwyliau gwyddoniaeth a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd yr Athro Evans, sef Athro Cemeg Defnyddiau ym Mhrifysgol Caergrawnt, ei geni a’i magu yn Pontllanfraith. Caiff ei gwaith ar ddefnyddiau ffotoadweithiol ei gymhwyso i amryw o ddibenion pwysig: mae’r cwmni newydd y mae hi wedi’i gyd-sefydlu, Senoptica, yn dylunio cyfarpar sy’n galluogi dull anymyrol o fonitro deunydd pecynnu bwyd amddiffynnol. Gellir defnyddio’r cyfarpar wrth fanwerthu, ac mae cryn potensial iddo leihau gwastraff bwyd.
Mae Timothy Jones, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Lerpwl a Chymrawd Emeritws Leverhulme, wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i ddamcaniaeth maes cwantwm a’r modd y cymhwysir hynny i ffiseg gronynnau. Mae’r Athro Jones, sy’n mwynhau cerdded mynyddoedd, yfed gwin, chwarae gwyddbwyll a’r gitâr, hefyd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at ddamcaniaeth medrydd dellt, adeiladu modelau uwchgymesuredd, ffenomenoleg, cosmoleg, a ffiseg mater cyddwysedig.
Ffisegwr gronynnau damcaniaethol yw Christopher Michael, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Lerpwl. Mae gan yr Athro Michael wedi cyflawni ymchwil pwysig a pharhaus i ddatblygiad a chymhwysiad technegau cyfrifiannol arloesol, er mwyn datrys y ddamcaniaeth maes cwantwm, Cromodynameg Cwantwm drwy ganolbwyntio ar archwilio’r sbectrwm o hadronau a ragfynegir. Mae ei gofnod o gyhoeddiadau’n eithriadol, ac yn cynnwys rhai o’r gweithiau a ddyfynnir amlaf yn y maes o fewn y DU.
Yr Athro Roberts, un o geocronolegwyr Cwarternaidd mwyaf blaenllaw’r byd, yw Cyfarwyddwr Rhagoriaeth ac Effaith Ymchwil ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n arwain labordy ymchwil byd-enwog sydd ymhlith y labordai â’r offer gorau yn y byd, a’r gallu unigryw i fesur ymoleuedd. Mae gwaith ymchwil cyfredol yr Athro Roberts yn cynnwys modd y gall gwaddod mewn llynnoedd yn Affrica fwrw goleuni ar esblygiad ac arloesedd dynol, ac ar wasgariad ei hynafiaid.