Croeso i’n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno wyth o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2023, sy’n gweithio o fewn peirianneg.

Yr Athro Liana Cipcigan FLSW

Athro; Arweinydd y thema ymchwil drawsbynciol, Trafnidiaeth Gynaliadwy, yn yr Ysgol Beirianneg; Arweinydd Electric Vehicle Centre of Excellence,
Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Cipcigan yn chwarae rhan arweiniol yn y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy drydaneiddio a gridiau clyfar, yn arbennig drwy arwain y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Cerbydau Trydan ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Athro Cipcigan hefyd yn eiriolwr cryf o blaid Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant, ac fel aelod o Menywod Entrepreneuraidd ym maes Ynni Adnewyddadwy, mae hi’n chwarae rhan bwysig er mwyn hyrwyddo menywod ym maes peirianneg.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Cipcigan.

Yr Athro Carol Featherston FLSW

Arweinydd Trafnidiaeth Gynaliadwy,
Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Featherston yn beiriannydd siartredig â phrofiad diwydiannol yn Airbus, ICI, a Rolls Royce ac mae hi’n Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol a’r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol. Ei harbenigedd yw dylunio ac optimeiddio strwythurau ysgafn ar gyfer y sectorau awyrofod, modurol a sifil. Mae hi’n arwain amryw o fentrau ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n canolbwyntio ar drafnidiaeth gynaliadwy ac ar ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy drydaneiddio. Hi hefyd yw Cadeirydd Grŵp Mecaneg Gymhwysol y Sefydliad Ffiseg ac mae hi’n un o lysgenhadon Fforwm Awyrofod Cymru.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Featherston

Yr Athro Tim Green FLSW

Tim Green

Athro Peirianneg Pŵer Trydanol
Coleg Imperial Llundain

Athro Peirianneg Pŵer Trydanol yng Ngholeg Imperial Llundain yw’r Athro Green. Ffocws ei ymchwil yw datblygu system cyflenwi trydan digarbon cost-effeithiol a dibynadwy a all gynnwys ffynonellau adnewyddadwy newidiol. Mae’n arbenigo mewn electroneg pŵer ac yn gweithio ar reolaeth, sefydlogrwydd a diogelu systemau pŵer y mae llawer o adnoddau seiliedig ar wrthdroyddion yn treiddio iddynt. Mae ei waith wedi cael ei gefnogi gan sefydliadau amrywiol, gan gynnwys EPSRC, Hitachi Energy, National Grid ESO, a UK Power Networks.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Green.

Yr Athro Cathy Holt FLSW

Athro Biomecaneg a Pheirianneg Orthopedig
Prifysgol Caerdydd

Cathy Holt, Athro Biomecaneg a Pheirianneg Orthopedig ym Mhrifysgol Caerdydd, yw Cyfarwyddwr y Cyfleuster Ymchwil Biomecaneg Gyhyrysgerbydol, aelod o’r Grŵp Ymchwil Peirianneg Feddygol ac un o sylfaenwyr Consortiwm Delweddu OA y DU. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys dadansoddi symudiadau 3D, biomecaneg, a pheirianneg orthopedig. Mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol a chydweithredol, gan arwain at geisiadau llwyddiannus a chyllid gan gynghorau ymchwil, y sector elusennol a diwydiant. Mae hi wedi sicrhau grantiau allanol gwerth dros £25 miliwn.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Holt.

Yr Athro Roger King FLSW

William L. Giles Athro Emeritws Nodedig
Prifysgol Talaith Mississippi

Mae Roger King yn Athro Emeritws Nodedig ym Mhrifysgol Talaith Mississippi. Mae ei waith ymchwil ym maes prosesu delweddau a signalau wedi’i ddyfynnu’n eang, ac wedi arwain at gymwysiadau amrywiol. Mae wedi arwain amryw o ganolfannau ymchwil rhyngddisgyblaethol mawr, ac wedi sicrhau dros $90 miliwn mewn cyllid ymchwil. Mae’r Athro King hefyd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at bolisi cyhoeddus ac wedi gweithio fel Prif Dechnolegydd ar gyfer Arsylwi’r Ddaear yn NASA, yn ogystal â chanlyn gyrfa lwyddiannus ym Miwro Mwyngloddiau’r UD.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro King.

Yr Athro Chenfeng Li FLSW

Chenfeng Li

Cadeirydd Personol yn y Gyfadran Wyddoniaeth a Pheirianneg
Prifysgol Abertawe

Mae Chenfeng Li, Athro Peirianneg Sifil a chanddo Gadair Bersonol mewn Peirianneg Gyfrifiadurol, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ymchwil mewn mecaneg solet gyfrifiannol, dynameg hylif gyfrifiannol, cloddio data yn seiliedig ar ffiseg, a chyfrifiadura gweledol. Mae wedi datblygu atebion cyfrifiannol arloesol i fynd i’r afael â heriau technegol mewn peirianneg sifil, geo-fecaneg, cronfeydd olew a nwy, gwyddor deunyddiau, a gweithgynhyrchu. Mae sefydliadau amrywiol yn y sectorau seilwaith ac adeiladu wedi ceisio ei arbenigedd. Yn ogystal â hynny, mae wedi gweithio fel Prif Olygydd y cyfnodolyn Engineering Computations.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Li.

Yr Athro Paul Rees FLSW

Athro Peirianneg Biofeddygol
Prifysgol Abertawe

Mae Paul Rees, Athro Peirianneg Biofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cydweithio â sefydliadau sy’n arwain y byd, fel Sefydliad Eang MIT a Harvard, Sefydliad Ymchwil yr Ysbyty Fethodistaidd yn Houston, a Sefydliad Francis Crick yn Llundain. Mae ei ymchwil wedi cyflwyno technegau arloesol, fel defnyddio peiriannau a dysgu dwfn i roi diagnosis o glefydau, darganfod therapïau a dadansoddi swyddogaeth celloedd.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Rees.

Yr Athro Rossi Setchi FLSW

Athro mewn Gweithgynhyrchu Uchel Ei Werth
Prifysgol Caerdydd

Athro ym maes Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yw Rossi Setchi, a Chyfarwyddwr a Phrif Ymchwiliwr y Ganolfan Dealltwriaeth Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol ym Mrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi darparu arweinyddiaeth ar dros 30 o brosiectau cydweithredol a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, Yr Academi Beirianneg Frenhinol, EPSRC a’r Comisiwn Ewropeaidd, a chydweithio â dros 50 o brifysgolion a 30 o gwmnïau diwydiannol. Mae hi wedi hyrwyddo’r proffesiwn peirianneg yn ogystal ag addysg Gymreig. Mae’r Athro Setchi wedi cwblhau prosiectau gwerth miliynau gyda diwydiant a’r llywodraeth, gan greu effaith sylweddol drwy drosglwyddo technoleg, arloesi, a buddsoddi ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Setchi.