Loading Events
  • This event has passed.

GOHIRIO: Heriau Seiber-Ddiogelwch i Genhedloedd Bach

Dydd Gwener 13 Mawrth, at 4:00 PM - 6:00 PM
University of South Wales, Newport Campus Usk Way Newport, NP20 2BP

Yn anffodus, bu’n rhaid gohirio’r ddarlith a drefnwyd ar gyfer 13 Mawrth.

Rydym ni ar hyn o bryd yn edrych ar ddyddiadau yn yr hydref.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Trafodaeth rhwng Paul Chichester (y Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol) a H.E. Tiina Intelmann (Llysgennad Estonia i’r DU) yn yr Academi Seiber Ddiogelwch ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Dinas Casnewydd. Cofrestrwch i dderbyn rhagor o fanylion.

Wrth i ni wneud defnydd cynyddol o’r rhyngrwyd yn ein bywydau bob bydd, mae rhan hanfodol gan seibr ddiogelwch i’w chwarae yn diogelu ein rhyngweithio ar-lein.

Mae Estonia yn arwain y byd mewn seiber ddiogelwch, ac yn gartref i Ganolfan Rhagoriaeth Seibr Gydweithredol NATO. Mae strategaeth ryngwladol newydd llywodraeth Cymru’n amlygu seiber ddiogelwch fel sector allweddol i helpu i arddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd mae Cymru’n eu cynnig fel hyb blaenllaw yn y sector seiber ddiogelwch sy’n tyfu’n gyflym.

 Wrth edrych ar brofiadau’r ddwy genedl, bydd Paul Chichester o’r Ganolfan Seibr Ddiogelwch Genedlaethol ac H.E. Tiina Intelmann, Llysgennad Estonia i’r DU, yn ystyried heriau a chyfleoedd maes seiber ddiogelwch.

Paul Chichester yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Ganolfan Seibr Ddiogelwch Genedlaethol.

H.E. Tiina Intelmann yw Llysgennad Estonia i’r DU.

Event Details
Date
Dydd Gwener 13 Mawrth
Time
4:00 PM - 6:00 PM
Lleoliad
University of South Wales, Newport Campus
Usk Way Newport, NP20 2BP
Website:
https://www.southwales.ac.uk/about/location/newport-campus-open-day/