Seiliau Addysgol, Hanesyddol ac Athronyddol Cyfrifiadureg mewn cydweithrediad â Technocampsa Chymdeithas Ddysgedig Cymru
Yn y digwyddiad hwn, bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, yn disgrifio’r cwricwlwm newydd a’r daith tuag ato. Yna, bydd yr Athro Donaldson yn trafod pa mor dda y mae’r cwricwlwm newydd yn adlewyrchu’r argymhellion a wnaed yn ei adroddiad yn 2015. Yn olaf, bydd yr Athro Tom Crick MBE yn myfyrio ar y cyfleoedd a’r heriau a wynebwyd gan y Grŵp Diwygio’r Cwricwlwm Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a gadeiriwyd ganddo.
Bydd y sesiwn yn dod i ben gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r panel o siaradwyr.
Y Rhaglen:
- Yr Athro Faron Moller FLSW, Cyfarwyddwr Technocamps a Sefydliad Codio Cymru
Cyflwyniad - Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg
O “Dyfodol Llwyddiannus” i’r cwricwlwm newydd - Yr Athro Graham Donaldson CB
O’r cwricwlwm newydd i “Dyfodol Llwyddiannus” - Yr Athro Tom Crick MBE
Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Sesiwn Holi ac Ateb
- Yr Athro Alma Harris FLSW, Pennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe
Diolchiadau