Loading Events
  • This event has passed.

Cyfnewid syniadau: Gwasanaethau gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru

Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2017, at 12:00 PM - 1:30 PM

Ymunwch â Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru am seminar ar wasanaethau gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru gyda’n panel o arbenigwyr:

  • John Wynn-Jones, Meddyg Teulu, Sefydliad Meddygon Gwledig y Byd a Chadeirydd Meddygfeydd Gwledig;
  • Dr Rachel Rahman, Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig, Prifysgol Aberystwyth;
  • Anna L Prytherch, Rheolwr Prosiect Iechyd a Gofal Gwledig Cymru;
  • Joy Garfitt, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Powys

Cadeirydd y panel: Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys:

– Anghenion gofal iechyd y boblogaeth wledig;

– Problemau recriwtio a chadw staff iechyd a gofal;

– Defnyddio technoleg i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb gwledig a phoblogaethau ynysig (gan gynnwys Teleiechyd / Telefeddygaeth / Presgripsiynau Gwyrdd);

– Iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig.

Am fwy o wybodaeth, ewch i blog Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad yma.

Event Details
Date
Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2017
Time
12:00 PM - 1:30 PM
Website
https://cyfnewidsyniadau.eventbrite.co.uk