Loading Events
  • This event has passed.

Yr Hen Dwrneiod Llengar – Darlith Edward Lhuyd 2019

Dydd Iau 7 Tachwedd 2019, at 5:30 PM - 7:30 PM
Swansea University SA2 8PP

Gan yr Athro Gwynedd Parry

Yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymddangosodd cenhedlaeth o farnwyr a chyfreithwyr diwylliedig a fu’n eiriolwyr brwd dros y Gymraeg mewn llysoedd barn ac ym mywyd y genedl. Ond aeth eu hymdrechion yn angof, a phrin yw’r cyfeiriadau atynt yng nghyfrolau’r haneswyr. Bydd y ddarlith hon yn adrodd eu hanes ac yn ystyried eu harwyddocâd i gyfiawnder yn y Gymru gyfoes.

Cynhelir Darlith Edward Lhuyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Nod y ddarlith flynyddol hon yw dathlu ysgolheictod disglair cyfrwng Cymraeg.

Ceir lluniaeth ysgafn ar ôl y ddarlith.

Mynediad am ddim a chroeso i bawb.

Cynhelir y ddarlith yn Darlithfa Wallace, Campws Singleton, Abertawe

Event Details
Date
Dydd Iau 7 Tachwedd 2019
Time
5:30 PM - 7:30 PM
Cost
Free
Website
https://tocyn.cymru/en/event/66ccbe62-280e-4afd-8300-a8e5ad7fe761
Trefnydd
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Website:
http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/
Lleoliad
Swansea University
SA2 8PP