Grŵp Ffocws – Adolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru
3 pm – 5 pm, Amgueddfa Sŵoleg, Adeilad Wallace, Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe
Dan arweiniad Terry Threadgold
Fel rhan o Adolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru cynhelir grwpiau ffocws i ganfod eich barn ar weithgaredd y Gymdeithas, gan gynnwys:
(1) beth mae pobl yn ei wybod am weithrediad a gweithgareddau’r gymdeithas
(2) beth mae ‘cymrodoriaeth’ yn ei olygu iddyn nhw a/neu beth maen nhw’n credu y gallai neu y dylai ei olygu
(3) a ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yng ngweithgareddau’r gymdeithas
Gweinir coffi, te a chacenni cri.
Derbyniad gyda Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
5.30 pm – 6.30 pm, Gwyddoniaeth Ganolog, Adeilad Wallace, Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe
Cyfle i gyfarfod â Swyddogion y Gymdeithas a rhannu eich syniadau ar gyfer y gymdeithas cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Gweinir gwin, diodydd ysgafn a chanapés.
Mae croeso i Gymrodyr ddod i unrhyw un, neu’r ddau ddigwyddiad. Rhowch wybod i Phil Jones (pjones@lsw.wales.ac.uk / 02920 37 6954) os hoffech gymryd rhan. Bydd angen i ni wybod erbyn dydd Gwener 20 Ebrill.
Amserlen y Grwpiau Ffocws
Fel rhan o’r Adolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnal y grwpiau ffocws canlynol:
Aberystwyth
16 Ebrill
Bangor
20 Ebrill
Abertawe
24 Ebrill