Ffoto gan David von Diemar – Unsplash
Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Cynnar – gwahoddiad i’n hail seminar Zoom am ddim
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i glywed gan academyddion byd enwog ac i siarad â nhw ar sut y gwnaethant addasu eu hymchwil i’w ddefnyddio gan y cyhoedd a’r cyfryngau – a’r rhwystrau a’r heriau y gwnaethant eu hwynebu wrth wneud hynny.
Bydd cyfle i gyfranogwyr gyfarfod a rhwydweithio’n anffurfiol hefyd.
Y ddau siaradwr ydy:
Yr Athro Nathan Abrams FLSW
Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes, Prifysgol Bangor
Nathan yw prif gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin, ac mae’n cydlynu rhwydwaith British Jewish Contemporary Cultures. Mae’n darlithio, yn ysgrifennu ac yn darlledu’n eang hefyd (yn Gymraeg ac yn Saesneg) ar ddiwylliant poblogaidd, hanes ffilmiau a diwylliant deallusol y Deyrnas Unedig ac America.
Yr Athro Boddy FLSW
Ysgol Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd
Mae Lynne yn gyfathrebwr ardun o ddirgelion a phwysigrwydd y Deyrnas Ffyngau gudd anhygoel i fyfyrwyr ac i’r cyhoedd cyffredin. Mae hi wedi cyfathrebu ei hymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys ar y rhaglenni teledu a radio a trwy gyfrwng sgyrsiau poblogaidd, fideos, ffilmiau, sioeau ac arddangosfeydd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan:
Yr Athro Jenny Kitzinger
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd
Mae Jenny yn gwneud gwaith hydredol manwl ar lwybrau cleifion, sy’n cynnwys dyfarniadau llys, ac yn archwilio triniaethau ar gyfer cleifion mewn ‘coma’ a’r cyflwr diymateb. Mae hi’n weithgar ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd a pholisïau, yn enwedig o ran marwolaeth a marw, gan weithio’n agos gydag artistiaid a llunwyr polisi, ac mae hi wedi cyd-gynhyrchu cyfres o raglenni radio ar foeseg ac ar wneud penderfyniadau diwedd oes.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma:
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZUqcu-trD8vEtdNzLbN7jYC8W5d8v0gGRWn