Grŵp Ffocws – Adolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru
2 pm – 4 pm, Medrus 2, Penbryn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3FL
Dan arweiniad Terry Threadgold
Fel rhan o Adolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru cynhelir grwpiau ffocws i ganfod eich barn ar weithgaredd y Gymdeithas, gan gynnwys:
(1) beth mae pobl yn ei wybod am weithrediad a gweithgareddau’r gymdeithas
(2) beth mae ‘cymrodoriaeth’ yn ei olygu iddyn nhw a/neu beth maen nhw’n credu y gallai neu y dylai ei olygu
(3) a ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yng ngweithgareddau’r gymdeithas
Gweinir coffi, te a chacenni cri.
Rhowch wybod i Phil Jones (pjones@lsw.wales.ac.uk / 02920 37 6954) os hoffech gymryd rhan. Bydd angen i ni wybod erbyn dydd Gwener 13 Ebrill.
Amserlen y Grwpiau Ffocws
Fel rhan o’r Adolygiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnal y grwpiau ffocws canlynol:
Aberystwyth
16 Ebrill
Bangor
20 Ebrill
Abertawe
24 Ebrill