Loading Events
  • This event has passed.

Hystings Gwyddoniaeth Etholiadau Senedd 2021

Dydd Iau 8 Ebrill, at 5:00 PM - 6:30 PM
Online

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y Sefydliad Ffiseg a’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol yn eich gwahodd i Hystings Gwyddoniaeth Etholiadau Senedd 2021

Wrth i ni edrych ymlaen at etholiadau Senedd 2021 yng nghyd-destun y pandemig, nid ydy rôl gwyddoniaeth erioed wedi bod yn bwysicach i gymdeithas.

Bydd y digwyddiad hysting hwn yn rhoi cyfle i’r gymuned wyddonol holi’r pleidiau gwleidyddol ynghylch pa gamau y byddant yn eu cymryd i roi gwyddoniaeth ar flaen y gad yn eu gwaith yn y Senedd dros y tymor nesaf.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Elin Rhys, darlledwr a hyrwyddwr gwyddoniaeth, a bydd ymgeiswyr o wahanol bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn ymuno â ni.

Byddwn yn trafod y pynciau sydd fwyaf pwysig i’r gymuned wyddonol, a bydd y rheiny sy’n mynychu’r digwyddiad yn gallu gofyn eu cwestiynau’n uniongyrchol i lefarwyr y pleidiau.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar-lein, a bydd cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu rhannu’n nes at ddyddiad y digwyddiad.

Cofrestrwch yma

Event Details
Date
Dydd Iau 8 Ebrill
Time
5:00 PM - 6:30 PM
Website
https://www.eventbrite.co.uk/e/2021-senedd-elections-science-hustings-tickets-145838824851
Trefnydd
Learned Society of Wales
Lleoliad
Online