Gŵyl Wyddoniaeth Merthyr 2021
8 Gorffennaf, 2021
16-18 Gorffennaf
Mae’r Gymdeithas yn cefnogi Gŵyl Wyddoniaeth Merthyr, sydd yn cael ei rhedeg ar-lein eleni. Mae’r ŵyl yn rhoi’r cyfle i bobl sydd ddim yn byw mewn tref Brifysgol i archwilio gwyddoniaeth, a’i nod yw dangos i blant a phobl ifanc yn eu harddegau fod bod yn wyddonydd yn yrfa hyfyw.