Hoffwn ymestyn gwahoddiad personol i ddarlith gyhoeddus gan Dr Ruth McKernan CBE, Prif Weithredwr Innovate UK. Cyflwynir y ddarlith mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ac Ymgyrch Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Bydd Dr Ruth McKernan CBE yn trafod y datblygiadau diweddaraf yng nghefnogaeth Innovate UK ar gyfer arloeswyr yn y DU, gan ganolbwyntio’n benodol ar weithgareddau yng Nghymru. Bydd Ruth yn disgrifio’r cyfleoedd newydd sydd ar gael yng Nghronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a thrwy ffurfio Ymchwil ac Arloesedd y DU.
Ymunodd Dr Ruth McKernan CBE ag Innovate UK fel Prif Weithredwr ym mis Mai 2015. Mae gan Ruth 25 mlynedd o brofiad ymchwil a masnachol yn y diwydiant fferyllol, gan gynnwys arwain unedau ymchwil yn y DU a’r UD. Mae’n aelod o Banel Ymgynghorol Arloesedd y Weinyddiaeth Amddiffyn a Phwyllgor Gwyddoniaeth, Diwydiant a Chyfieithu’r Gymdeithas Frenhinol. Roedd Ruth hefyd yn Aelod o’r Cyngor Ymchwil Meddygol am bum mlynedd. Dyfarnwyd CBE i Ruth yn 2013 am ei gwasanaethau i fusnes, arloesedd a sgiliau.
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i roi gwybod am unrhyw ofynion dietegol, mynediad neu weledol. Hefyd, rhannwch y neges hon gydag unrhyw un sydd â diddordeb.
Bydd derbyniad diodydd o 5.30pm a bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ond rhaid archebu tocyn o flaen llaw. Croeso i bawb.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Woods neu Caglar Ozturk, Prifysgol Caerdydd drwy ffonio 02920 874408 neu drwy ebostio innovationsystem@caerdydd.ac.uk
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich gweld yno.