Sgwrs gydag Enillwyr Medalau Frances Hoggan
Cyn cyhoeddi ein enillwyr medalau newydd ym mis Mai, rydym yn cynnal digwyddiad medal Frances Hoggan ar 27 Ebrill. Bydd tri person sydd wedi ennill y fedal yn y gorffennol, sef y Fonesig Jean Thomas, yr Athro Tavi Murray a’r Athro Haley Gomez, yn sgwrsio gyda Elin Rhys ac yn trafod eu gyrfaoedd ym meysydd STEMM.
Cofrestrwch yma
- Mae’r Athro’r Fonesig Jean Thomas yn Athro Biocemeg Emerita ym Mhrifysgol Caergrawnt; bu’n Feistr Coleg St Catherine, Caergrawnt yn ddiweddar , a chyn Lywydd y Gymdeithas Bioleg Frenhinol. Mae ei hymchwil yn edrych ar strwythur a deinameg cromatin (cymhleth proteinau a DNA sy’n gyfystyr â cromosomau) a’i rôl yn ailbrosesu ac ysgogi genynnau.
- A hithau’n Wyddonydd Amgylcheddol sy’n arwain y byd, mae’r Athro Tavi Murray’n gweithio ar y blaen ym maes rhewlifeg ac wedi torri tir newydd yn y maes gyda defnydd arloesol o dechnegau geoffiseg a synhwyro o bell. Mae’n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol amlwg sy’n pontio ffiseg, daearyddiaeth a chyfrifiadureg yn ei hymdrech i ddarparu gwell cyfyngiadau ar gyfraniadau rhewlifol at godi lefel y môr yn fyd-eang.
- Mae ymchwil yr Athro Haley Gomez wedi canolbwyntio ar ddefnyddio golau isgoch pell i ddatgelu allyriadau llwch mewn ffrwydradau sêr ac mewn galaethau. Mae ei thîm a chydweithwyr wedi helpu i ddangos bod llwch mewn gwirionedd yn cael ei greu mewn ffrwydradau sêr, bod y Bydysawd yn raddol yn troi’n “lanach” a bod conglfeini planedau creigiog fel y Ddaear yn ffurfio mewn un math penodol o ffrwydrad seryddol. Yn ogystal, mae ei gwaith allgymorth wedi cynnwys hyfforddi dros 200 o athrawon yng Nghymru, yn rhannol mewn ymgais i unioni tuedd rhywedd mewn pynciau STEMM.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru tuag at Fedal Frances Hoggan