‘Pandemigau a Mwy: Dysgu o Argyfyngau’

4.00pm – 5.30pm, 19 Hydref

Mae sut y gallwn ddysgu o hanes i ddod allan yn gryfach o’n cyfnod presennol o argyfwng, yn destun darlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n cynnwys yr Athro Margaret MacMillan.

Bydd yr Athro MacMillan, Athro Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen a Chymrawd Anrhydeddus y Comisiwn, yn archwilio’r gwersi sydd wedi cael eu dysgu o argyfyngau’r gorffennol, yn ei darlith ac mewn sgwrs â’i chyd-hanesydd, yr Athro Syr Richard Evans.

Mae enw da a phroffil y ddau hanesydd yn sicrhau y bydd y digwyddiad hwn yn cynnig syniadau pwysig ar sut mae cymdeithasau’n ceisio dod allan o’r pandemig presennol.

Mae’r digwyddiad ar-lein, am ddim ac ar agor i bawb.

Mae’r Athro MacMillan wedi ysgrifennu am sut mae argyfyngau’n tynnu sylw at wendidau a methiannau mewn cymdeithas. Ar yr un pryd, gallant annog ffyrdd newydd o feddwl, a dangos manteision arweinyddiaeth gref, cefnogaeth ar y cyd, a sefydliadau dinesig wedi’u hariannu’n dda.

Bydd ei darlith yn cael ei dilyn gan sgwrs gyda’r Athro Evans, y mae ei gwaith ar yr Almaen wedi archwilio cymdeithas mewn argyfwng ar wahanol adegau yn ei hanes.