“Other People’s Countries: Tales of Literary and Cultural Belonging” – Adroddiad Digwyddiad

Dydd Sadwrn 16 Ebrill am 11.30 daeth dros gant o bobl ynghyd yn Neuadd Fawr yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar gyfer darlith gyhoeddus yr Athro Patrick McGuiness FLSW a noddwyd gan y Gymdeithas Ddysgedig.

Adlais o deitl ei lyfr diweddaraf oedd ei bwnc, sef “Other People’s Countries: Tales of Literary and Cultural Belonging” ac addas iawn ar gyfer y gynulleidfa gymysg. Roedd tua hanner y gynulleidfa yn gynadleddwyr a ddaeth o bell i drafod datblygu cynulleidfaoedd ar gyfer llenyddiaeth ryngwladol – cynhadledd a drefnwyd gan raglen Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a leolir yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth.

Deuai’r hanner arall o’r gymdeithas leol yn Aberystwyth a gellir ystyried y ddarlith fel enghraifft ymarferol o’r hyn yr oedd y gynhadledd yn ei drafod, sef sut i  ddatblygu cynulleidfa ar gyfer llenyddiaeth sy’n tarddu o ddiwylliannau eraill, bach a mawr.

Patrick and MWT

Cyflwynwyd y darlithydd gan yr Athro M.Wynn Thomas, un o sefydlwyr y Gymdeithas Ddysgedig a fanteisiodd ar y cyfle i son am ei hamcanion. Yn dilyn y ddarlith cafwyd derbyniad a noddwyd gan y Gymdeithas Ddysgedig a phryd hynny clywyd lleisiau egniol y grwp corawl Sgarmes yn atseinio’n soniarus yn yr Hen Gwad.