Strategaethau Pŵer Meddal – Sut ddylai Cymru ei chyflwyno ei hun ar lwyfan y byd?

9.30-16.30 28 Hydref 2019

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Bydd y digwyddiad cyntaf yn trafod safbwyntiau ar bŵer meddal, ac yn ceisio cynnig awgrymiadau ymarferol i ddatblygu proffil byd-eang Cymru.

Gan gyd-fynd â datblygu Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, nod y gyfres hon o ddigwyddiadau yw ehangu’r drafodaeth a dwysau ein dealltwriaeth o asedau “grym meddal” Cymru.

Bydd y digwyddiad cyntaf yn trafod safbwyntiau ar bŵer meddal, ac yn ceisio cynnig awgrymiadau ymarferol i ddatblygu proffil byd-eang Cymru.

Bydd y diwrnod yn thrafod:

  • Beth yw grym meddal, a pham a sut mae’n berthnasol i Gymru?
  • Sut caiff grym meddal Cymru ei hybu neu ei gyfyngu gan ei safle yn y DU?
  • I ba raddau mae Cymru’n gwneud y defnydd gorau o’i ‘brand’ a’i hadnoddau ‘grym meddal’?
  • Beth yw’r straeon rydym ni am eu hadrodd am Gymru i godi proffil y genedl?
  • Sut gallwn ni ddatgloi’r potensial hwn er budd diwylliant, economi a phobl Cymru?

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Eluned Morgan AM, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Yr Athro Karen Smith, Athro mewn Cydberthynas y Gwledydd, Ysgol Economeg Llundain
  • Paul Brummel, Pennaeth Grym Meddal a Materion Allanol, Y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad
  • Imants Liegis, Llysgennad Latfia i Ffrainc

Yn dilyn prif sesiynau’r bore ceir sesiynau trafod yn y prynhawn. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle i ystyried beth yw asedau pŵer meddal Cymru, a sut y gallwn wneud gwell defnydd o’r straeon rydym ni’n eu hadrodd am Gymru i godi proffil y genedl. Bydd y panelwyr yn adfyfyrio ar yr hyn y gall y sectorau diwylliannol, addysg, chwaraeon ac elusennol ei gyfrannu i gryfhau enw da Cymru.

Rydym ni’n awyddus i gael amrywiaeth eang o randdeiliaid yn cymryd rhan yn y trafodaethau hyn, fydd yn ehangu ar yr ymagweddau pŵer meddal yn Strategaeth Ryngwladol y Llywodraeth.

Mae’r rhaglen ddrafft i’w gweld yma.

Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Metropolitan Caerdydd am gynnal y digwyddiad.

Cefnogir y gyfres gan Lywodraeth Cymru.

Mae croeso cynnes i bawb ac mae cofrestru yn rhad ac am ddim.