Mae disgyblaethau’r Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn ein dysgu i ddadansoddi, dehongli, creu, cyfathrebu a chydweithio gyda thrylwyredd, eglurder ac egni – sgiliau sy’n hanfodol i raddedigion a chyflogwyr heddiw, yn ogystal â phriodoleddau hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’r materion niferus sy’n bwysig i bobl heddiw.
Mae’r pynciau ‘SHAPE‘ hyn yn ein galluogi i ddeall y byd o’n cwmpas a’r bobl sy’n byw ynddo yn fwy dwys, drwy arsylwi, dadansoddi, addasu a dehongli. Maen nhw’n ein helpu i fod yn chwilfrydig, yn greadigol ac yn empathetig – ac i asesu beth sy’n iawn /dim yn iawn, beth fydd yn gweithio/dim yn gweithio, a beth sy’n bwysig go iawn mewn bywyd.
Ymunwch â’r Athro Julia Black, Llywydd Etholedig yr Academi Brydeinig, a’r Athro Helen Fulton, Is- Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Yr Athro Ambreena Manji, Prifysgol Caerdydd ac Aelod o Cyngor yr AHRC,Yr Athro Elwen Evans, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, a David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, ar gyfer y drafodaeth ford gron hon sydd wedi’i hanelu at ymchwilwyr, athrawon, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisi.
Byddwn yn ystyried gwerth ymchwil a dysgu ym meysydd y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol i bobl a’r economi, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r pynciau hyn, a sut y bydd buddsoddi yn y pynciau hyn ac mewn pynciau STEM yn helpu Cymru i gyflawni nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae Julia Black yn Llywydd Etholedig yr Academi Brydeinig ac yn Gyfarwyddwr Strategol Arloesi ac Athro’r Gyfraith yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain. Bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil o 2014-19, ac yn Gyfarwyddwr dros dro yn Ysgol Economeg Llundain o 2016-17. Mae hi’n Aelod Allanol Awdurdod Rheoleiddio Darbodus Banc Lloegr hefyd, yn Uwch Aelod Annibynnol o Fwrdd Cyngor Ymchwil ac Arloesi’r DU, yn aelod o’r Cyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac ym mis Gorffennaf 2020, ymunodd â Bwrdd Sefydliad Celf Courtauld.