Trwy Brism Iaith: Themâu ac Argymhellion

Download Publication

Ym mis Tachwedd 2020, cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru symposiwm ynghylch dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.

Daeth y digwyddiad ag academyddion, ymarferwyr ac ysgrifenwyr ynghyd i drafod nifer o agweddau ar ieithoedd yng Nghymru.

Er mwyn llunio cyfres o argymhellion eglur at ddibenion y gymdeithas a llywodraeth yng Nghymru yn deillio o’r trafodaethau amlddisgyblaethol hyn, mae’r sylwadau isod wedi cymryd y Cwricwlwm newydd (y bwriedir ei gyflwyno yn 2022) fel man cychwyn.  Maent yn canolbwyntio ar un o themâu pwysicaf y symposiwm, sef yr angen i Gymru fanteisio ar ei photensial ieithyddol yn well er mwyn datblygu cenedl sy’n fwy eangfrydig, cynhwysol ac empathetig. Gyda’i gilydd, bwriedir iddynt awgrymu sut y gellid gwireddu’r potensial hwn.