Beth yw gwyddoniaeth i Gymru, a Chymru i wyddoniaeth? Mae gan ein gwlad hanes gwyddonol hir a chyfoethog, ond er gwaethaf cyfraniad Cymry i’n dealltwriaeth o’r byd o’n hamgylch, rydym yn tueddu i feddwl am wyddoniaeth fel rhywbeth estron, rhywbeth nad yw’n perthyn i ni go iawn. Dydyn nid dim yn meddwl fod gwyddoniaeth yn rhan bwysig o’n hanes. I newid hyn, mae angen trafodaeth newydd am hanes gwyddoniaeth Cymru.
Cyfle fydd yr achlysur yma i rannu syniadau a gweledigaethau ynglyn â sut y medrwn newid y ffyrdd rydym yn meddwl am ein gorffennol gwyddonol, a sut medrwn ni ddefnyddio hanes gwyddoniaeth Cymru i drawsffurfio ein dyfodol.
Cefnogir y Seiat Wyddonol gan Gymdeithas Ddysgiedig Cymru a MYRDDIN: Rhwydwaith Hanes ac Astudiaeth Gymdeithasol Gwyddoniaeth Cymru.