Bydd yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones yn dehongli hanes bywyd ar ein planed dros 4.5 biliwn blwyddyn ei bodolaeth.
Bydd yn dadlau bod modd adnabod chwe chwyldro ynni ffurfiannol yn hanes ein planed. Drwy ffrwyno ffynhonnell newydd o ynni, daw’r potensial i wneud gwaith ychwanegol, sy’n arwain at gymhlethdod materol ac at gymhlethdod cymdeithasol cynyddol.
Beth yw’r patrymau yn y chwe chwyldro? Beth yw eu goblygiadau ar gyfer y seithfed chwyldro, sydd ar ein gwarthaf ni heddiw?
Darlithydd: Yr Athro Emeritws Gareth Wyn Jones
Cadeirydd: Yr Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts
Ceir lluniaeth ysgafn yn dilyn y ddarlith.
I archebu tocynnau, ewch i bit.ly/Darlith2017 neu ffoniwch 01248 660672.
Mynediad am ddim. Croeso cynnes i bawb.