Yn bersonol

Colocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar: Cyfrannu at Greu Cymru Lewyrchus – Creu Gyrfa Ymchwil yng Nghymru a thu hwnt

6 Gor, 2023:

9:30 am -

6 Gor, 2023:

4:30 pm

Cymru lewyrchus yw thema colocwiwm wyneb yn wyneb Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer ymchwilwyr gyrfa cynnar a gynhelir gan Prifysgol Abertawe yr haf hwn.

Bydd y digwyddiad yn dod ag aelodau o Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru at ei gilydd, ynghyd â chydweithwyr o’r sectorau academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat, a’r trydydd sector. Bydd cyfle i rwydweithio, rhannu ymchwil a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa ymchwil lwyddiannus ym maes ymchwil.   

Bydd gyda ni gyllid cyfyngedig ar gael ar gyger bwsariaethau ar gyfer teithio a/llety.

Mae pob digwyddiad yn gostus i’w trefnu, hyd yn oed y rhai ble nad oes rhaid i’r rhai sy’n mynychu dalu. Os ydych chi’n cofrestru ar gyfer y Colocwiwm ond wedyn, ddim yn gallu mynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Fel elusen, mae angen i ni dalu costau digwyddiadau, ac efallai y byddwn yn codi ffi o £10 arnoch i dalu am y costau gweinyddu ac arlwyo os byddwch yn methu â mynychu neu’n rhoi llai na 1 wythnos o rybudd i ni.