Ar-lein

Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar “Coffee Hour”

29 Maw, 2023:

12:00 pm -

29 Maw, 2023:

1:00 pm

Ddydd Mercher 29 Mawrth (12 – 1pm) byddwn yn cynnal sesiwn awr i ateb eich cwestiynau am ein Colocwiwm ECR ac i rannu mwy am y broses enwebu Medalau. Bydd hwn hefyd yn gyfle i gwrdd â’r Tîm Datblygu Ymchwilydd yn anffurfiol a sgwrsio ag ECRs eraill.   

Y Tîm Datblygu Ymchwilwyr

Cathy Stroemer, Rheolwr Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr

Ymunodd Cathy â’r gymdeithas ym mis Ebrill 2022, i arwain ar y rhaglen Datblygu Ymchwilwyr sydd yn cael ei chyllido gan CCAUC. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd yn datblygu cyfres o ddigwyddiadau i dargedu ymchwilwyr newydd yng Nghymru, gan roi cyfleoedd iddynt gysylltu â nhw a dysgu gan ein Cymrodyr.

Cyn ymuno â’r Gymdeithas Ddysgedig, bu Cathy’n gweithio yn y Cyngor Prydeinig i gyflawni Cynllun Effaith Cronfa Newton mewn partneriaeth ag UKRI, yn ogystal â chefnogi rhaglenni cryfhau gallu gyda De Affrica a Malaysia.

Ers symud i Gaerdydd yn 2014, mae Cathy wedi bod yn mynychu dosbarthiadau nos gyda Cymraeg i Oedolion / Dysgu Cymraeg ac yn ddiweddar, cwblhaodd flwyddyn gyntaf y Lefel.

Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Swyddog Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr

Mae Barbara’n gofalu am Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar y Gymdeithas. Ar wahân i fod yn brif bwynt cyswllt i aelodau’r Rhwydwaith, mae Barbara’n cynhyrchu’r Bwletin Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar misol, ac yn arwain y gwaith o drefnu seminarau, gweithdai a gweithgareddau eraill. Mae Barbara’n gweithio’n agos gyda Cathy Stroemer i gyflwyno’r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr, un o weithgareddau craidd y Gymdeithas i hyrwyddo cydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws Cymru. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy’n cyllido’r rhaglen hon.

Ymunodd Barbara â’r Gymdeithas ym Mehefin 2021. Fel gwyddonydd cymdeithasol, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd, mae Barbara’n parhau i ddatblygu ei phroffil ymchwil drwy ymgynghori ar gyfer prosiectau ymchwil a chefnogi sefydliadau dielw i gael cyllid i weithio o fewn cymunedau brodorol Mecsico.

Dilynwch ni ar Twitter @ECR_Cymru

Cynhelir y gweithdy hwn yn uniaith Saesneg