Bydd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar o bob cwr o Gymru yn cyflwyno eu hymchwil ar les gyda phoblogaethau amrywiol. O ddiwylliant ystyriol o drawma yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, i ymchwilio i ragfynegwyr lles pobl ifanc o leiafrifoedd rhywiol yn y DU, i ymyriadau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar a ddefnyddir i hyrwyddo iechyd. Bydd y wemniar hefyd yn archwilio rôl iechyd corfforol, gweithgarwch corfforol a phwyisgrwydd strategaethau seiliedig ar y corff i reoli iechyd meddwl. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i rannu adnoddau y gall Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar eu defnyddio wrth wynebu straen a gorbryder.
Anogir mynychwyr i drafod pa strategaethau sydd wedi gweithio iddyn nhw i gynnal eu lles.
Mae aelodau’r panel yn cynnwys:
- Dr Tegan Brierley-Sollis, Darlithydd mewn Plismona, Troseddeg a Dulliau wedi’u Llywio gan Drawma, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Dr Paula Foscarini-Craggs, Rheolwr Treialon a Cydymaith Ymchwil , Canolfan Y mchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd
- Dr Lucy Bryning, Swyddog Arloesi Ymchwil a Datblygu ym Maes Iechyd a Lles, Prifysgol Bangor
- Dr Becky Amos, Swyddog Ymchwil -Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol Bangor
Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan:
- Athro Ann John (LSW), Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg; Pennaeth Adran, Ysgol Meddygaeth Abertawe, Prifysgol Abertawe.
Darllenwch y crynodebau llawn a’r bywgraffiadau siaradwyr yma.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn uniaith Saesneg
