Ar-lein

Gweithdy ar-lein: ‘What’s the Message? Communicating your research to a wider audience’

28 Maw, 2023:

10:30 am -

28 Maw, 2023:

12:00 pm

Ymunwch â Dr Emma Yhnell yn y gweithdy rhyngweithiol hwn a fydd yn archwilio sut mae cyfleu syniadau a gwybodaeth gymhleth i amrywiol gynulleidfaoedd yn ddifyr ac arloesol. Ochr yn ochr â deall pwysigrwydd cyfathrebu clir, byddwn yn ystyried y ffordd orau o addasu’ch neges ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.

Sesiwn ryngweithiol fydd hon, felly bydd disgwyl i chi gyfrannu a chymryd rhan. Cynhelir y sesiwn ar-lein, ac felly, mae rhwydd hynt i chi fynychu’r sesiwn fel sy’n gyfleus i chi, boed gennych blant gyda chi, boed y cysylltiad Wi-Fi yn annibynadwy, neu boed hoffech i’ch camera fod ymlaen neu wedi’i ddiffodd. Mae croeso i chi fynychu yn y modd sydd fwyaf cyfforddus i chi, a rhowch wybod i ni wrth gofrestru os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd penodol.

Bywgraffiad Siaradwr:

Mae Dr Emma Yhnell yn gyfathrebwr gwyddoniaeth brwd a llwyddiannus. Ysbrydolwyd hi drwy ei gwaith mewn clinig ymchwilio i’r Clefyd Huntington, a dangosodd hynny iddi yr angen i ddarparu gwybodaeth hygyrch a diddorol i wahanol gynulleidfaoedd.

Mae Emma yn cyflwyno sesiynau diddorol, rhyngweithiol yn llawn ysgog a brwdfrydedd heintus. Mae’n academydd uchel ei pharch sydd wedi magu enw da am ei gallu i egluro agweddau academaidd technegol a’u trosi’n gynnwys diddorol, perthnasol a hygyrch. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd at y radio a’r teledu lleol, yn ogystal ag yn esboniwr ar gyfer Science Media Centre. A hithau yr academydd cyntaf yn ei theulu, mae’n gweithio’n ddygn i newid y ddelwedd nodweddiadol o fyd academaidd, er mwyn gwneud gwyddoniaeth yn fwy agored, gonest a hwyliog. 

Cynhelir y gweithdy hwn yn uniaith Saesneg