Fe wnaethom gynnal derbyniad yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 12 Ionawr, gyda chyflwyniadau gan ystod o gymunedau yng Nghymru sydd wedi elwa o ymchwil o Gymru. Roedd eu straeon ysbrydoledig yn ein hatgoffa o pam rydym yn cefnogi gwybodaeth i Gymru.
Diolch yn arbennig i’r Farwnes Finlay o Landaf FLSW am noddi’r digwyddiad.
Mae ymchwilwyr yng Nghymru yn gweithio gyda chyfranwyr dinesig a chymunedau llawr gwlad i greu buddion gwirioneddol i bobl yng Nghymru. Clywodd y mynychwyr tystiolaeth gan arweinwyr cymunedau a pherchnogion busnesau bach ynglŷn â’r modd y mae ymchwil yng Nghymru wedi gwella bywydau lleol ac ardaloedd lleol.
- Jamie Edwards, Clwb Pêl-droed Wrecsam
- Ali Abdi, Porth Cymunedol Grangetown
- Alexandra Strong, Y Coleg Merthyr – Clwb STEM ar gyfer Disgyblion Ysgol Gynradd
- Simon Frith, Alabaré – Prosiect Legal Link ar gyfer Cyn-filwyr
- Michael Williams, Fferm Fagwrfran East – Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis mewn Gwartheg
- Clare Baker, Rhiant – Hwb Cymunedol Llaeth y Fron