Mae cylch ethol 2026-27 ar agor

Roedd cyflwyno a chwrdd â’n Cymrodyr newydd yn y Swper Blynyddol a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni ym mis Mai, fel bob amser, yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r Gymdeithas ac roedd awyrgylch arbennig wrth i ni groesawu cyfeillion hen a newydd fis diwethaf.

Events like this demonstrate why our Fellowship is such a unique feature of Welsh civic and academic life.

I ychwanegu at hyn, bellach mae angen eich cymorth chi arnom. Chi, ein Cymrodyr, sy’n llywio enwebiad ein carfan nesaf.


Mae cylch ethol 2026-27 ar agor

Dechreuodd ein cylch ethol 2025-26 ar 1 Mehefin wrth i’n cyfnod blynyddol ar gyfer enwebiadau am Gymrodoriaeth agor. Bydd y cyfnod enwebu ar agor tan 31 Hydref.

Ystyriwch gynnig ymgeiswyr addas.

Fel Cymrawd, gallwch gynnig hyd at dri enwebai mewn blwyddyn etholiadol, ond os yw’r enwebeion hynny o grwpiau cyfredol sy’n cael eu tangynrychioli (merched ac ethnig leiafrifol), yna nid oes cyfyngiad ar y nifer y gallwch eu cynnig.


Sut i enwebu: ffurflenni, canllawiau a thudalennau gwe wedi’u diweddaru

Mae’r dogfennau canllawiau a ffurflenni ar gyfer 2026-27 ar gael yma .

Os ydych yn dymuno gofyn cwestiwn neu eisiau cyngor a chymorth, anfonwch e-bost at nominations@lsw.wales.ac.uk.

Mae adran Gymrodoriaeth ein gwefan yn cynnwys yr holl wybodaeth y dylech fod ei hangen am ein Cymrodyr presennol, y broses enwebu, y Cenhadon (ein cynrychiolwyr prifysgol) a phwyllgorau craffu.


Dewch i’n sesiynau byr ar-lein i ddysgu rhagor

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig sesiynau awr o hyd ar-lein yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer enwebeion posibl.

I archebu eich lle, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod. Bydd yr holl sesiynau hyn yn ymdrin â’r un wybodaeth:

yn ôl i'r brig