Rhoddion untro
Mae ymchwil yn hanfodol ar gyfer cynnydd: gwyddonol, cymdeithasol ac economaidd. Er mwyn mynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu Cymru heddiw – yr argyfwng hinsawdd, anghydraddoldebau, twf economaidd – mae angen ymchwil ac arloesi arnom.
Beth mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ei wneud?
Fel Academi Genedlaethol Cymru, rydym yn harneisio arbenigedd, profiad a chysylltiadau amlddisgyblaethol ein Cymrodoriaeth i hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, a chefnogi’r defnydd o ymchwil rhagorol ac amrywiol i ddatrys yr heriau sydd yn cael eu hwynebu yng Nghymru ac ar draws y byd.
Mae ein strategaeth pum mlynedd yn nodi ein blaenoriaethau allweddol i gyflawni hyn ar gyfer 2023-28, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth wrth i ni barhau i fwrw ymlaen â hyn.