Rydym yn gwahodd mynegiannau o ddiddordeb mewn ymuno â phanel bach Medr i adolygu Codau Ymarfer FfRhY prifysgolion Cymru.
Mae Codau Ymarfer yn amod er mwyn cymryd rhan yn FfRhY 2029. Maent yn amlinellu sut y bydd prifysgolion yn gwneud penderfyniadau allweddol ynghylch eu cyflwyniad er mwyn ymgorffori tryloywder, cadernid, tegwch a chynhwysiant. Yng Nghymru rhaid i Godau Ymarfer gael eu cymeradwyo gan Medr (Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru), un o’r pedwar corff sy’n cyllido FfRhY 2029.
Bydd y gymeradwyaeth hon yn cynnwys ystyriaeth gan banel o arbenigwyr allanol, wedi’i gadeirio gan Gadeirydd Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi Medr, yr Athro David Sweeney. Mae Medr wedi gofyn i Gymdeithas Ddysgedig Cymru enwebu arbenigwr addas o’i Chymrodoriaeth i ymuno â’r panel hwn. Rydym felly’n ceisio Mynegiannau o Ddiddordeb gan Gymrodyr â diddordeb yn y rôl hon (rhagor o wybodaeth isod) ac sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
Y rôl
Adolygu a chraffu’n allanol ar Godau Ymarfer FfRhY 2029 prifysgolion Cymru, yn dilyn adolygiad mewnol ac argymhelliad gan staff Medr. Disgwylir i’r panel gynnwys: David Sweeney (Cadeirydd), Aelod o Bwyllgor Ymchwil ac Arloesi Medr a chymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru sy’n arbenigo yn y FfRhY.
Bydd Codau Ymarfer FfRhY 2029 yn cael eu hadolygu mewn dwy “ffenestr”, ac o ganlyniad i hynny bydd y panel yn cyfarfod am tua 2 awr ddwywaith yn 2026: ddiwedd mis Ebrill a mis Gorffennaf. Disgwylir i aelodau’r panel neilltuo 0.5 diwrnod o amser paratoi fesul cyfarfod, ond rhagwelir y bydd cyfran fwy o’r Codau Ymarfer yn cael eu hadolygu yn ystod yr ail gyfarfod ym mis Gorffennaf.
Rydym yn chwilio am Gymrawd:
Bydd staff Medr yn fodlon rhoi briffiau ymlaen llaw cyn cyfarfod y panel ac/neu ateb unrhyw gwestiynau am y rôl a phroses FfRhY 2029.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, anfonwch eich mynegiant o ddiddordeb at lsw@cymru.ac.uk erbyn Dydd Gwener 20 Mawrth o dan y teitl “Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer Panel Adolygu Codau Ymarfer FfRhY”, gan gynnwys eich CV a datganiad byr (uchafswm o 200 gair) yn esbonio’n gryno pam eich bod yn addas. Os hoffech siarad â rhywun cyn cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb, cysylltwch ag lsw@cymru.ac.uk a all eich rhoi mewn cysylltiad â staff perthnasol yn Medr.