Rhannwch eich dealltwriaeth a helpwch i lunio’r adolygiad sydd ar ddod o’n proses enwebu i’r Gymrodoriaeth

Mae’r arolwg hwn yn agored tan y 15fed o Ragfyr. Bydd yr ymatebion a dderbynnir yn helpu i lunio’r papurau trafod a fydd yn cychwyn yr adolygiad gan Bwyllgor Cymrodoriaeth a Chyngor y Gymdeithas.

Cefndir:

Mae Cyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cymeradwyo adolygiad o’n proses enwebu.  Bydd hyn yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf – archwilio sut yr ydym yn cyflawni ein nod Strategol o ddatblygu Cymrodoriaeth sy’n amrywiol ac yn weithredol.  Nod cyffredinol yr adolygiad fydd gwella hygyrchedd a chynhwysiant y broses wrth gadw ein hegwyddor o ragoriaeth.

Rydym yn ceisio mewnbwn gan ystod eang o bobl yn ystod y cam cychwynnol hwn, i lunio cwmpas a ffocws yr adolygiad.  Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio’n ddienw i lunio’r trafodaethau a fydd yn cael eu cynnal yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Cymrodoriaeth a’r Cyngor. 

Noder, gall eich atebion fod yn seiliedig ar eich profiad eich hun o gael eich enwebu, enwebu pobl eraill neu unrhyw adborth yr ydych wedi’i dderbyn gan unigolion yr ydych wedi dymuno eu henwebu.   Wrth adolygu’r ‘broses’ hoffem glywed eich barn ar UNRHYW UN neu BOB UN o’r elfennau.

Cliciwch y ddolen hon i agor yr arolwg byr a nodi’ch barn yn ddienw mewn ymateb i’r ddau gwestiwn canlynol.

  • Cryfderau: Beth ydych chi’n credu sy’n gweithio’n dda yn y broses bresennol? 
  • Cyfleoedd: A oes unrhyw beth yn y broses bresennol yr ydych yn teimlo y gellid ei newid, ei ddileu neu ei ychwanegu i’w gwella?

yn ôl i'r brig