Rydym Yn Cyflogi… Tair Rôl Allweddol yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru

Dyma gyfnod cyffrous o dwf i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae gennym y swyddi gwag canlynol ar hyn o bryd.
Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Cyfle prin i Reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus profiadol ymuno â’r tîm yn academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Bydd y rôl hon yn arwain ar gyfraniad y Gymdeithas at ddatrysiadau polisi mawr yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r swydd llawn amser, barhaol hon yn cynnig rôl hyblyg o fewn elusen annibynnol sy’n bodoli i gysylltu arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt – gan hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu a darparu cyngor polisi annibynnol.
Cyflog: £46,974 – £54,395
Rheolwr Rhaglen – Datblygu Ymchwilwyr
Cyfle gwych i unigolyn a all feddwl yn greadigol fynd â’n rhaglen datblygu ymchwilwyr i’r lefel nesaf a gwneud Cymru yn lle sy’n cefnogi ei harbenigwyr presennol ac arbenigwyr y dyfodol. Mae’r swydd llawn amser, barhaol hon yn cynnig rôl hyblyg o fewn elusen annibynnol sy’n bodoli i gysylltu arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt – gan hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu a darparu cyngor polisi annibynnol.
Cyflog: £38,205 – £45,585
Clerc i’r Cyngor
Cyfle cyffrous i weithiwr llywodraethu proffesiynol rhagweithiol a threfnus ymuno â thîm academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae hon yn rôl rhan amser sy’n cynnig cyfleoedd hyblyg a diddorol mewn elusen annibynnol sy’n bodoli i gysylltu arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt – gan hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu a darparu cyngor polisi annibynnol.
Cyflog: £38,205 – £45,585 pro rata (21 awr yr wythnos)