Ymateb i’r coronafeirws: rhannu eich arbenigedd


Cofrestr Arbenigwyr COVID-19: Senedd Cymru

Mae’r Senedd yn gweithio i nodi academyddion sydd ag arbenigedd ar faterion sy’n ymwneud ag argyfwng presennol COVID-19 yng Nghymru.  Mae arnom angen mynediad cyflym at arbenigedd a all ein helpu i lywio Aelodau’r Cynulliad fel y gallant ymateb i gwestiynau gan eu hetholwyr, craffu ar Lywodraeth Cymru, trafod y materion sy’n codi o’r argyfwng a phasio deddfwriaeth yng Nghymru. 

Mae’r Senedd yn angen arbenigedd mewn perthynas â COVID-19 a’i effeithiau yng Nghymru.  .  Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, effeithiau ar y system gofal iechyd, cyflogaeth, tai, addysg, trafnidiaeth ac ati. Am fwy o wybodaeth, gweler yma.


Covid-19: Galwad i ymuno â chronfa ddata o arbenigwyr: Senedd DU

Mae’r Senedd DU yn edrych am ddealltwriaeth arbenigol mewn nifer o bynciau sy’n ymwneud â COVID-19 a’i effeithiau. Os oes gennych chi arbenigedd ymchwil perthnasol, ymunwch â’r gronfa ddata i helpu’r Senedd i fanteisio ar yr arbenigedd hwnnw’n gyflym.


Rydym wedi bod yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru gan helpu i ddatblygu cynlluniau i gynorthwyo gyda chysondeb dysgu i blant ysgol yn ystod yr aflonyddwch yn sgil y coronafeirws.

Ond mae angen cymorth ein Cymrodyr i wireddu’r uchelgais yn llawn.Os oes gennych chi unrhyw adnoddau a allai fod o ddiddordeb i ddysgwyr, yn enwedig rhai ym mlwyddyn 11 (TGAU), blwyddyn 12 (Uwch-gyfrannol) a 13 (Safon Uwch), rhowch wybod i ni.

Mae’r llywodraeth hefyd yn awyddus iawn i ddarparu adnoddau fydd yn ‘estyn’ y myfyrwyr hynny oedd i fod yn sefyll eu harholiadau Safon Uwch yr haf hwn. Os oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau, neu syniadau a allai helpu, rhowch wybod i ni, ac fe allwn ni eich cyflwyno i’r cysylltiadau perthnasol. Maen nhw’n awyddus i wneud yn siŵr nad yw’r myfyrwyr hyn dan anfantais yn sgil y sefyllfa, felly byddai croeso i unrhyw gymorth y gallech chi ei gynnig.

A allech chi sbario ychydig o amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb neu ddosbarth meistr gyda dysgwyr Safon Uwch? Os oes diddordeb gennych chi, cysylltwch â ni.


Ymdrin â Covid-19: Ymchwil ac Arloesi’r DU yn ceisio syniadau

Mae Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) wedi gwahodd cynigion ar gyfer prosiectau tymor byr i ymdrin ag argyfwng Covid-19.

Caiff prosiectau sy’n ymdrin ag effeithiau iechyd, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr argyfwng eu hystyried ar gyfer eu cefnogi.

Ceir manylion llawn, yn cynnwys cwmpas y cynigion, ar wefan UKRI.

Nid oes dyddiad cau a gellir cyflwyno cynigion ar unrhyw adeg.

There is no closing date and proposals can be submitted at any time.