Ymunwch â’r Pwyllgorau Craffu Gwobrau a Medalau Newydd
Medalau a Gwobrau CDdC
Ym mis Mawrth, byddwn yn lansio cyfres newydd sbon o Fedalau a Gwobrau’r Gymdeithas Ddysgedig.
Bydd 12 medal/gwobr (6 i’w dyfarnu bob yn ail flwyddyn) yn cael eu lansio ar y 1af Mawrth. Gall unrhyw un enwebu rhywun y teimlant sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer pob gwobr neu fedal, ac rydym yn annog ystod eang o enwebiadau. Nid yw’n ofynnol i fod yn Gymrawd neu’n gysylltiedig â’r Gymdeithas mewn unrhyw ffordd er mwyn enwebu neu gael eich enwebu.
Lluniwyd ein medalau a’n gwobrau i ddathlu ymchwilwyr ac ymarferwyr, yn unigol ac fel timau, sy’n gweithio yn y byd academaidd, diwydiant a’r celfyddydau, y mae eu gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar wella gwybodaeth a/neu rym ymchwil ac arloesi.
Pwyllgorau Craffu Gwobrau a Medalau
Wrth i ni gynllunio lansiad ein cyfres newydd o fedalau a gwobrau, rydym yn chwilio am Fynegiannau o Ddiddordeb gan Gymrodyr i ymuno â’r Pwyllgorau Craffu newydd.
Y dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb yw dydd Llun 9fed Chwefror 23:59. Gallwch fynegi diddordeb trwy’r ffurflen ar lein yma.
Gellir ymgymryd â’r swyddi hyn yn gyfan gwbl ar-lein, sy’n eu gwneud yn hygyrch i bob Cymrawd, waeth beth fo’r lleoliad. Rydym yn annog pob Cymrawd, gan gynnwys y rhai a etholwyd yn 2025 a thu allan i Gymru, i ystyried mynegi eu diddordeb. Nodwch, nid yw Cymrodyr sydd ar Gyngor CDdC neuʼr Pwyllgor Materion Cyffredinol yn gymwys i sefyll ar Pwyllgor Medalau a Gwobrau’r Gymdeithas.
Bydd y swydd yn cynnwys adolygu enwebiadau a dderbyniwyd a mynychu un cyfarfod Pwyllgor Craffu Gwobrau a Medalau ar-lein, i’w drefnu gydag aelodau sy’n mynychu fel – ym mis Mehefin/Gorffennaf fel arfer. Mae’r Proffil Rôl ar gael yma.
Mae gan y broses newydd fwy o fedalau a gwobrau gydag ystod ehangach o sgiliau a gwybodaeth yn cael eu dathlu. Felly, bydd pob Pwyllgor Craffu yn cynnwys Cymrodyr sy’n cynrychioli ystod eang o gefndiroedd disgyblaeth, ynghyd ag aelodau ychwanegol fel y manylir yn y Canllawiau.
Mae lle gwag i Gymrodyr ym mhob un o’r categorïau canlynol:
- Gwobrau Effaith (4 lle wag)
- Medalau Gyrfa Sefydledig (4 lle wag)
- Bydd y Medalau Dillwyn yn parhau ac o’r herwydd, nid ydynt angen aelodau newydd eleni. Hysbysebir y seddi gwag o 2027 ymlaen.
Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r Gymdeithas wedi ei chyfoethogi gan gefndiroedd a phersbectifau gwahanol ein Cymrodyr, ac rydym yn awyddus i dderbyn ystod amrywiol o geisiadau. Dewisir aelodau pob pwyllgor craffu Medalau a Gwobrau i gynrychioli’r ystod o ddisgyblaethau a gynrychiolir gan ein medalau. Rhoddir hefyd ystyriaeth i sicrhau bod gennym gydbwysedd o ran rhywedd ac amrywiaeth ddemograffeg gref ar draws pob unigolyn ym mhob pwyllgor.
Dogfennau
- Rheoliadau Medalau a Gwobrau’r Gymdeithas
- Canllawiau i’r Pwyllgorau Craffu Medalau a Gwobrau
- Proffil o Rôl – Aelod o’r Pwyllgor Craffu Medalau a Gwobrau
- Sgorio Medalau a Gwobrau CDdC
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyfle yma, cysylltwch â ni ar medals@lsw.wales.ac.uk