Cynhaliodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ford gron o arbenigwyr i fyfyrio ar statws arloesi yng Nghymru ar sail gweithgareddau arbenigwyr y ford gron, a thrafod llwybrau posibl i wella’r ecosystem er mwyn creu budd i ystod fwy amrywiol o randdeiliaid. Roedd y ford gron hon yn cynnwys siaradwyr o Lywodraeth Cymru, Innovate UK, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mewnwelediadau allweddol:
Gwneud Arloesi yn Gynhwysol: Mae sefydliadau mawr ledled Cymru wedi bod yn gweithio i arloesi mewn modd mwy cynhwysol. Er enghraifft, cynyddodd Byrddau Iechyd y GIG eu ffocws ar ffactorau cymdeithasol a diwylliannol gofal iechyd.
Agwedd allweddol ar y strategaeth hon yw ei ffocws ar gynhwysiant ac ar sicrhau bod arloesi o fudd i sbectrwm eang o'r boblogaeth.
Deilliodd Strategaeth Arloesi bresennol Cymru o broses ymgysylltu helaeth a anelai i fynd i’r afael â heriau ac anghenion y rhanbarth. Agwedd allweddol ar y strategaeth hon yw ei ffocws ar gynhwysiant ac ar sicrhau bod arloesi o fudd i sbectrwm eang o’r boblogaeth. Yn unol â’r strategaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cronfa Gymorth Arloesi sy’n targedu pedair thema cenhadaeth, ac wedi cefnogi 135 o brosiectau ers mis Mehefin 2023. Mae’r fenter hon wedi dyrannu £12 miliwn mewn cyllid grant, gyda’r prosiectau a ariannwyd yn cynhyrchu cyfanswm effaith gwerth mwy na £50 miliwn. Yn ogystal â hyn, mae cynllun cydweithredol ag Innovate UK yn anelu i ddatblygu cynigion mwy llwyddiannus gan arwain at gyllid ychwanegol i fusnesau yng Nghymru. Sicrhaodd busnesau Cymreig £57 miliwn gan Innovate UK yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ar ben hynny, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sefydlu Cronfa Her, sy’n anelu i adeiladu cyfoeth lleol ac ysgogi twf economaidd drwy heriau ac arloesi a sbardunir gan genhadaeth. Ceir tair prif fenter yn gysylltiedig â’r gronfa: Cyflymu Datgarboneiddio, Gwella Iechyd a Llesiant, a Chefnogi, Gwella, a Thrawsnewid Cymunedau. O dan y tair conglfaen hyn, mae 12 o brosiectau cydweithredol parhaus rhwng busnesau a sefydliadau sector cyhoeddus yn cael eu cynnal. Mae’r ymdrechion hyn gyda’i gilydd yn amlygu ymrwymiad Cymru i feithrin ecosystem arloesi fywiog a chynhwysol sy’n sbarduno twf economaidd rhanbarthol ac yn mynd i’r afael â heriau tyngedfennol mewn cymdeithas.
Mae cefnogi busnesau bach a chanolig yn hanfodol er mwyn meithrin arloesi yng Nghymru. Yn dilyn ymchwiliad gan bwyllgor y Senedd i ecosystemau arloesi Cymru, rhyddhaodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig adroddiad a oedd yn gwneud pedwar argymhelliad bras:
Aeth y ford gron ati i adolygu’r argymhellion hyn, gan ychwanegu ychydig o awgrymiadau pellach at y pedwerydd – ystyried pa gymorth pellach y gellir ei ddarparu i BBaChau. Ar gyfer un, mae’n hanfodol symleiddio proses ymgeisio Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) a phrosesau eraill yn gysylltiedig â grantiau arloesi eraill. Mae rhai ffyrdd i hwyluso’r prosesau hyn yn cynnwys cyfeiriadau cliriach at ffrydiau cyllido amrywiol, ac mae angen hefyd rhoi gwell cymorth i ymgeiswyr. Er enghraifft, gall symleiddio ffurflenni cais a chynnig dulliau eraill o ymgeisio, fel cyflwyniadau fideo, helpu i wneud y broses yn fwy hygyrch.
Nodwyd hefyd fod y gofyniad i ddarparu arian cyfatebol yn arbennig o heriol i BBaChau. Yn ogystal â hyn, mae argaeledd cyllid heb ei wanio yn chwarae rhan hollbwysig er mwyn cefnogi BBaChau, gan sicrhau y gall sefydliadau o’r fath barhau i arloesi heb golli ecwiti. Cafodd fformat Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol yr AHRC (a ddyfarnwyd yng Nghymru i Clwstwr, ac sydd bellach yn parhau o dan yr enw Media Cymru gyda chyllid Strength in Places), lle bo consortiwm o sefydliadau addysg uwch yn gweithredu fel man ymgynnull a mecanwaith cefnogi i BBaChau lleol, ei amlygu fel model i oresgyn rhai o’r heriau hyn. Bydd gweithredu’r argymhellion ynghyd ag awgrymiadau ychwanegol yn gwella’r system gymorth i BBaChau yn sylweddol, a thrwy hynny’n ysgogi arloesi a thwf economaidd yng Nghymru.
Mae'n hanfodol symleiddio proses ymgeisio Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) a phrosesau eraill yn gysylltiedig â grantiau arloesi eraill.
Mae’r gwaith o integreiddio arloesiadau cymdeithasol a thechnegol yn y sector iechyd yn dangos pwysigrwydd ymagwedd gyfannol at arloesi.
Drwy edrych ar swyddogaeth arloesi cymdeithasol yn y sector iechyd, gallwn ddysgu gwersi gwerthfawr ar gyfer sectorau eraill. Yn draddodiadol, mae’r sector iechyd yng Nghymru wedi canolbwyntio ar agweddau mwy technegol arloesi, megis datblygu robotau, cyffuriau a dyfeisiau meddygol. Yn aml, mae ffocws wedi bod ar ddiogelwch ac effeithiolrwydd arloesiadau o’r fath ac nid yw’r ffactorau ehangach a allai ddylanwadu ar benderfyniadau o ran eu mabwysiadu yn y sector iechyd wedi cael digon o sylw. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys fforddiadwyedd, derbynioldeb i gleifion a thimau clinigol, a modelau ariannol. Mae hyn yn dechrau newid, gyda mentrau sydd ag ymagwedd mwy cynhwysol.
Mae Sefydliad TriTech, menter ymchwil gofal iechyd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydlwyd bedair blynedd yn ôl, yn enghraifft o’r newid hwn. Mae’n mynd y tu hwnt i brofi diogelwch ac effeithiolrwydd technolegau newydd yn unig. Yn hytrach, mae’r Sefydliad yn ystyried a fydd systemau gofal iechyd a sefydliadau partner yn debygol o fabwysiadu’r technolegau hyn ai peidio. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys asesu’r ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar benderfyniadau o ran mabwysiadu, megis fforddiadwyedd, derbynioldeb i ddefnyddwyr, ystyriaethau eiddo deallusol, a chontractio ‘seiliedig ar werth’. Yn ogystal, mae’n hanfodol fod yr unigolion rheng flaen a fydd yn profi’r arloesiadau hyn neu’n eu hintegreiddio i’w llwybrau gofal yn eu gwaith o ddydd i ddydd yn cael eu cefnogi. Mae’r gwaith o integreiddio arloesiadau cymdeithasol a thechnegol yn y sector iechyd yn dangos pwysigrwydd ymagwedd gyfannol at arloesi.
Wrth fentro i bennod nesaf arloesi ym maes gofal iechyd, mae’n rhaid cydnabod bod cyfran sylweddol o’r hyn sy’n pennu canlyniadau iechyd yn gorwedd y tu allan i’r GIG – tai, bwyd, llygredd – felly, yn ogystal ag ystyried y ffactorau hyn o ran arloesi ym maes iechyd, mae’n hollbwysig fod cydweithio’n digwydd gyda chymunedau a phartneriaid dinesig sydd â chyfrifoldebau yn y meysydd hyn er mwyn gwella canlyniadau iechyd yng Nghymru.
Mae cyfathrebu a chydweithio effeithiol yn hanfodol i atal dyblygu gweithgareddau arloesi a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu. Mae sawl enghraifft o gyfathrebu a chydweithio effeithiol yn digwydd o fewn Ecosystem Arloesi Cymru ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru ac Innovate UK wedi bod yn cydweithio i sicrhau ymagwedd strategol at arloesi ar draws rhanbarthau, gan gyhoeddi cynllun cydweithredol i ddatblygu mwy o gynigion llwyddiannus a denu mwy o gyllid i Gymru. Mae’r cynllun hwn yn annog cydweithio traws-sector a thrawsffiniol. Ar ben hynny, mae’n rhaid i’r cydweithio sy’n digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a’r pedwar Cydbwyllgor Cyfunol, wrth i’r rhain esblygu i drafod pedwar rhanbarth economaidd Cymru, anelu i lenwi bylchau yn yr ecosystem arloesi. Dylid llenwi’r bylchau hynny mewn modd cyflenwol sy’n gweddu i gryfderau rhanbarthol, yn hytrach na dyblygu ymdrechion neu fabwysiadu un ateb sy’n addas i bawb.
Fodd bynnag, mae achosion wedi codi o ddiffyg cyfathrebu a chydweithio, gan arwain at golli cyfleoedd a aneffeithlonrwydd. Gall Cymru greu ecosystem arloesi fwy cydlynol ac effeithiol drwy gydweithio a chyfathrebu’n well.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Gymdeithas wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron arloesi, gan ddod ag ymarferwyr, arweinwyr ac arbenigwyr arloesi ynghyd i helpu i lywio a chyfrannu at drafodaethau a allai wella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru ac ar gyfer Cymru. Roedd y rhaglen hon o weithgareddau i ddechrau’n cyd-daro â gwaith Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Arloesi Cymru a chynlluniau cyflawni cysylltiedig. Ar gyfer 2024, mae’r Gymdeithas wedi cychwyn cyfres newydd o raglenni bord gron arloesi.
Yn y cam nesaf hwn, mae’r Gymdeithas yn ymgysylltu ymhellach ag arweinwyr agweddau ac ymarferwyr yn y maes, gan barhau i ddatblygu argymhellion er mwy helpu i lywio a gwella strategaethau arloesi a’r amgylchedd arloesi yng Nghymru. Thema greiddiol newydd y cam nesaf hwn yw “Arloesi cynhwysol,” a ddiffinnir yn yr ystyr ehangaf ond gyda phwyslais arbennig ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â mesur effaith y tu hwnt i’r economi. Bydd yr ail gam hwn hefyd yn cynnwys archwiliad dwfn o thema o’r gyfres flaenorol o fordau crwn. “Arloesi mewn Cenhedloedd Bach,” cyfle i rannu gwersi y gall Cymru eu dysgu gan genhedloedd bach eraill.
Cynhelir yr holl sesiynau bord gron o dan Reolau Chatham House, a dyma’r adroddiad ar brif bwyntiau’r pedwerydd digwyddiad, heb briodoli unrhyw sylwadau nac enwi unrhyw un o’r cyfranwyr.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae ei Chymrodoriaeth yn dwyn arbenigwyr ynghyd o bob maes academaidd a thu hwnt. Mae’r Gymdeithas yn defnyddio’r wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu, a rhoi cyngor annibynnol ar bolisi.