Ym mis Medi 2024, daeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru â grŵp o arbenigwyr ynghyd o’r byd academaidd, y GIG, diwydiant a’r llywodraeth, i drafod arloesi er budd Cymru ym maes technolegau meddygol.
Mae Cymru eisiau arloesi: mae’r adroddiad byr hwn yn manylu ar yr amodau sydd eu hangen i greu ecosystem ddynamig a chryf ar gyfer arloesi ym maes Technoleg Feddygol, gan greu lle i feithrin arloesi, a chreu buddion iechyd a gofal cymdeithasol, gwerth am arian a thwf economaidd i Gymru.
METHU YN GYFLYM
Mae methiant yn rhan anochel a defnyddiol o’r broses arloesi: ystyrir bod cyfradd fethiant o 80% yn rhywbeth cadarnhaol. Mae hyn yn gwrthdaro â systemau a phrosesau sector cyhoeddus traddodiadol sy’n osgoi risg. Ar ben hynny, heb gael sicrwydd bod cyfran o fethiannau’n rhan dderbyniol o’r broses arloesi, a’r dysgu a ddaw yn eu sgil, bydd staff yn aml yn dychwelyd i’r hen ddulliau aneffeithlon o weithio. Mae ar wasanaeth iechyd modern angen systemau a phrosesau sy’n ymgorffori methiant fel rhan o’r broses arloesi, gan ei reoli a rhoi cyfrif yn hytrach na chosb amdano.
Mae’r model “methu’n gyflym” yn lleihau aflonyddwch drwy ganfod methiant yn fuan, a chreu llwybrau rhwydd i symud ymlaen o hynny. Ymhen amser, dylai’r dull hwn ryddhau digon o amser i ganiatáu datblygiadau arloesol sy’n fwy tebygol o lwyddo.
DRWS BLAEN AR GYFER ARLOESI
Mae angen i glinigwyr ac ymchwilwyr arloesol wybod ble i gyflwyno syniad da yn y cyfnod cynnar. Byddai “drws blaen” clir ar gyfer arloesi yn cyfeirio at adnoddau, cyfleoedd, risgiau a chamau nesaf:
Mae’n cymryd amser i ymchwilwyr ddysgu beth sydd ei angen ar y sector o Dechnolegau Iechyd. Gallai drws blaen ar gyfer arloesi gynnig un man ar gyfer yr wybodaeth hon, gan alluogi egin-ymchwilwyr i droi eu sylw’n fwy effeithlon tuag at fodloni’r angen hwnnw. Yn yr un modd, gallai’r Byrddau Iechyd Prifysgol wneud y mwyaf o’u cysylltiadau â phrifysgolion drwy gyfeirio heriau cyfredol i sylw myfyrwyr ar gyfer eu prosiectau gradd.
Mae ar wasanaeth iechyd modern angen systemau a phrosesau sy’n ymgorffori methiant fel rhan o’r broses arloesi, gan ei reoli a rhoi cyfrif yn hytrach na chosb amdano.
CYLLID CYDGYSYLLTIEDIG AR GYFER Y TYMOR HIR
Mae angen i brosiectau gael eu cynnal dros y tymor hir i ddatblygu’n llawn. Bydd grantiau bach fesul tipyn yn creu ehangder, ond nid dyfnder, sy’n aml yn achosi i syniadau gwych gilio ar adegau tyngedfennol. Mae cyllid hirdymor hefyd yn hanfodol i gadw talent. Gall partneriaethau cyllido hirdymor â diwydiant hyrwyddo ymateb ystwyth, a meithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth.
Drwy rannu gallu ar raddfa genedlaethol – yn lle ailadrodd mân adnoddau ar draws sefydliadau – greu enillion effeithlonrwydd yn ogystal â datblygiadau arloesol mwy uchelgeisiol a chystadleuol.
Fel gwlad fechan, ni all Cymru ragori ym mhopeth, ond mae cyfleoedd ym maes arloesi Technoleg Feddygol iddi fanteisio ar ei maint a’i demograffeg er mwyn cynnal mentrau ymchwil glinigol trawsfudol. Mae ein cryfderau ym maes lled-ddargludyddion a’r cyfryngau yn fodel ar gyfer llwyddiant. Byddai rhoi blaenoriaeth strategol i arloesi ym maes Technoleg Feddygol yn creu màs critigol, ac arbedion maint. Bydd hyn yn creu’r gallu i adeiladu ar lwyddiant a brofwyd gyda nifer o ddatblygiadau arloesol allweddol, y gwelwyd maint eu heffaith yn y blynyddoedd cynt.
Mae Sefydliad TriTech yn cynnig model amgen ar gyfer cyllido, y gellid ei ailadrodd ar gyfer meysydd arloesi penodol. Cyllidir y sefydliad ymchwil a datblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar sail adennill costau’n llwyddiannus.
Menter arall sefydledig yng Nghymru yw Esiamplau Bevan. Mae’n annog gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa sydd â syniadau gwych i ddatblygu prosiectau arloesol. Yn y dyfodol, mae angen cymorth priodol ar ddatblygiadau arloesol llwyddiannus sy’n deillio o’r rhaglen hon er mwyn gwneud gwaith dilynol a’u masnacheiddio.
LLYWODRAETHU’N DDOETH O RAN ARLOESI
Mae systemau llywodraethu sy’n wybodus am arloesi yn cefnogi gwaith effeithlon ar draws y gwasanaeth iechyd. Byddai ymgyfarwyddo â manylion deddfwriaeth y gwasanaeth iechyd yn cynyddu hyder ac yn lleihau rhwystrau diangen yn gysylltiedig â risgiau a dulliau newydd.
Mae llywodraethu symlach ar y cam asesu yn cynorthwyo clinigwyr i deimlo’n hyderus bod ymyriad yn ddiogel, gan hwyluso casgliadau data hanfodol. Gallai grŵp cynghori pwrpasol gynnig buddion sylweddol drwy gydgysylltu a symleiddio materion llywodraethu ymchwil yn gysylltiedig â chytundebau rhannu data, mynediad at seilwaith cyffredin, a chymeradwyaeth foesegol.
Ochr yn ochr â systemau gweithredu a phrosesau sy’n addas ar gyfer arloesi modern, i greu cenedl sy’n arloesi’n llwyddiannus mae angen diwylliant o frwdfrydedd, positifrwydd, cydweithredu, cymuned a chydlyniant. Bydd hynny’n fodd i greu ecosystem sy’n fwy na’i chyfanswm ei rhannau. Ceir manteision i bob rhan o’r system yn gysylltiedig â’r dull hwn: arbedion effeithlonrwydd a chost i’r GIG; mwy o effeithiau i’w hadrodd gan academyddion i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil; a mwy o elw i ddiwydiant Cymru.
MAE SICRWYDD SWYDDI YN MEITHRIN ARLOESI
Mae’r rhan fwyaf o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y DU ar gontractau cyfnod penodol, yn aml o dan flwyddyn o hyd, ac yn aml yn rhan-amser. Natur fyrdymor cyllid grant yw rhan o’r rheswm wrth wraidd y contractau anneniadol hyn i ymchwilwyr gyrfa gynnar, sydd yn aml yn canfod cyfleoedd gwell mewn diwydiant neu wledydd tramor.
Ar ben hynny, bydd arafwch wrth recriwtio yn aml yn golygu na ellir manteisio ar gyfleoedd i gydweithio’n gyflym â diwydiant. Mae ymchwilwyr gyrfa gynnar â chontractau parhaol yn gallu gweithio ar draws prosiectau lluosog, a gallant ddechrau gweithio ar unwaith pan fydd cyfleoedd yn codi. Drwy sicrhau bod màs hanfodol o gapasiti ymchwil ar gael gall timau ymchwil fod yn fwy ystwyth wrth gydweithio â diwydiant.
Yn ôl ymchwilwyr gyrfa gynnar, mae canlyn contractau byrdymor yn arwain at lwybrau gyrfa datgymalog ac anghystadleuol. Drwy weithio gyda phwy bynnag fydd yn eu cyflogi wrth i’w contract ddod i ben, yn hytrach na gwneud penderfyniadau bwriadol ynghylch eu gyrfa, maent yn ei chael hi’n anodd datblygu’r arbenigedd manwl sy’n creu ymgeisydd cryf am gyllid allanol.
Bydd contractau byrdymor hefyd yn gwaethygu annhegwch a diffyg amrywiaeth yn y sector ymchwil, gan fod unigolion sydd wedi etifeddu cyfoeth ac sydd heb gyfrifoldebau gofalu yn fwy tebygol o allu ymdopi â chyfnodau o ddiweithdra. Er hynny, dengys astudiaethau fod amrywiaeth yn gwella gwyddoniaeth.
AMSER I ARLOESI
Mae mewnwelediadau a syniadau clinigwyr yn hanfodol ar gyfer ymchwil a datblygu. Mae angen gwarchod amser i arloesi drwy ei gynnwys mewn swydd-ddisgrifiadau, dangosyddion perfformiad allweddol ac amcanion. Gall cymrodoriaethau ymchwil hirdymor fod o gymorth i bontio’r bwlch hwn, ac i ysgwyddo rhywfaint o faich clinigwyr.
Yn ôl ymchwilwyr a chlinigwyr, gall y gwasanaeth iechyd fod yn fwy agored i syniadau a gynhyrchir gan sefydliadau allanol na syniadau mewnol, sy’n creu aneffeithlonrwydd. Mae Cymru’n elwa fwyaf pan fydd yn adnabod ei thalent ei hun, er enghraifft drwy gefnogi mentrau sy’n deillio o raglen Esiamplau Bevan.
Mae anogaeth hefyd yn bwysig i egin-arloeswyr. Drwy greu llwybr strwythuredig i unigolion sydd wedi llwyddo ym maes arloesi gael bod yn fentoriaid, gellid helpu arloeswyr newydd i arbed amser drwy osgoi meini tramgwydd amlwg. Byddai’r mentoriaid hefyd yn esiamplau i’w hysbrydoli y gallant berthnasu â nhw, sydd â phrofiad o weithio yng nghyd-destun Cymru. Gall anogaeth hefyd fod ar ffurf cydnabyddiaeth: byddai digwyddiad dathlu blynyddol yn cynnwys gwobrau a chyfleoedd i ennill cyllid ysgogi yn denu sylw ymchwilwyr ac arloeswyr newydd, gan ysgogi ymdrechion i ymateb i heriau cyfredol a rhoi llwyfan i esiamplau a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
... greu cenedl sy'n arloesi'n llwyddiannus mae angen diwylliant o frwdfrydedd, positifrwydd, cydweithredu, cymuned a chydlyniant.
LLYTHRENNEDD DIWYDIANNOL
Er mwyn hwyluso partneriaethau cryf â diwydiant, ac i osgoi ailddyfeisio’r olwyn, mae angen i academyddion a chlinigwyr ymgyfarwyddo’n fanwl â’r modd y mae diwydiant yn gweithredu. Er enghraifft:
Gall academyddion gynnig cymorth gwerthfawr i bartneriaid diwydiant, er enghraifft:
Mae angen gwneud trefniadau priodol i gydnabod a gwobrwyo’r gefnogaeth hon yn hytrach na bod hynny’n digwydd ar sail ad hoc.
ENNYN YMDDIRIEDAETH
Mae agweddau staff a chleifion yn cael effaith sylweddol ar y defnydd o ddatblygiadau arloesol.
Gall diffyg ymddiriedaeth olygu bod gwaith yn cael ei ddyblygu yn y sector cyhoeddus, gan fuddsoddi mewn hen dechnoleg a’r dechnoleg newydd, sy’n creu aneffeithlonrwydd a chostau ychwanegol.
Corff cenedlaethol yw Technoleg Iechyd Cymru sy’n gweithio i wella ansawdd gofal yng Nghymru. Rydym yn cydweithio â phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i sicrhau dull o weithredu i Gymru gyfan. Cawn ein hariannu gan Lywodraeth Cymru a’n cynnal oddi mewn i GIG Cymru, ond rydym yn annibynnol ar y naill a’r llall.
Mae ein cylch gwaith yn cynnwys unrhyw dechnoleg neu fodel gofal a chymorth mewn iechyd a gofal cymdeithasol, nad yw’n feddyginiaeth. Ar gyfer iechyd, gallai hyn gynnwys dyfeisiau meddygol, diagnosteg, triniaethau a therapïau seicolegol. Ar gyfer gofal cymdeithasol, gallai hyn gynnwys offer, neu fodelau gwahanol i gefnogi teuluoedd, plant, oedolion a’r gweithlu.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw Academi Genedlaethol Cymru ar gyfer y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Rydym yn credu mewn hyrwyddo gwybodaeth, a grym ymchwil ac arloesi er budd economi a chymdeithas Cymru.
Mae Academïau Cenedlaethol yn gyfrwng i arbenigwyr gefnogi gwaith llunio polisi annibynnol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar faterion allweddol fel newid hinsawdd, iechyd, a’r economi. Rydym yn cynrychioli Cymru yn y gymuned gwyddoniaeth ac ymchwil ryngwladol, gan sefydlu Cymru fel economi wybodaeth sy’n rhoi gwerth ar benderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru ym mhob maes gwybodaeth. Cânt eu hethol ar sail rhagoriaeth, ac mae eu harbenigedd, eu profiad a’u cysylltiadau amlddisgyblaethol yn adnodd a chaffaeliad amhrisiadwy i Gymru.