Mae Dr Jain yn dysgu newyddiadurwyr y dyfodol i chwarae rhan ystyrlon yn eu cymdeithas. Y mae hefyd yn arwain prosiect rhyngddisgyblaethol i ddatblygu’r offeryn Realiti Rhithwir cyntaf yn y ddisgyblaeth sy’n addysgu sut i wneud penderfyniadau creadigol. Mae wedi sicrhau grantiau ar gyfer prosiectau gwerth dros EUR 1.35 miliwn, a hyfforddi cannoedd o newyddiadurwyr a gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol mewn tua 30 o wledydd. Fel newyddiadurwr, mae ei waith wedi cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd yn rhyngwladol.
Mae Andrew Lewis yn gyfansoddwr ac yn Athro Cyfansoddi. Mae a wnelo ei gerddoriaeth â materoldeb sain, ac yn aml bydd yn defnyddio technoleg i’w gwireddu a’i pherfformio. Mae ei gynnyrch yn amrywio rhwng cerddoriaeth ‘acwsmatig’ (a glywir ar amryw o seinyddion yn unig) a gweithiau cerddorfaol a siambr, sy’n aml yn cynnwys technoleg. Andrew yw sylfaenydd Electroacwstig CYMRU, sy’n hyrwyddo ac yn galluogi cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth electroacwstig ledled Cymru.
Mae’r Athro Mohanram yn ysgolhaig blaenllaw yn y cyfnod ôl-drefedigaethol, ar ôl ysgrifennu tri monograff a golygu pum casgliad o draethodau ar hil, rhyw a llywodraeth ymerodrol, gan gynnwys SPAN, un o’r tri phrif gyfnodolyn ar astudiaethau ôl-drefedigaethol yn Awstralasia. Mae’r nifer fawr o ddyfyniadau (1316) o’r monograffau yn Google Scholar yn tystio i’w heffaith. Y mae hefyd yn ymchwilio i drawma ôl-drefedigaethol, maes astudiaeth newydd sydd heb ei ddatblygu. Gwelwyd effaith yr ymchwil a gyllidwyd ganddo yng Nghymru ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd a’r sector amgueddfeydd.
Mae Clair Rowden yn Athro Cerddoleg yn Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn trafod Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trawsgenedlaetholdeb ac opera a theatr cerdd, ei dderbyniad gan y beirniaid, cynhyrchu llwyfan, dawns, eiconograffeg a gwawdluniau.
Mae ei chyhoeddiadau diweddar yn cynnwys Opera and Parody in Paris, 1860-1900 (Brepols, 2020) a’r gyfrol a gyd-olygwyd ganddi, Carmen Abroad: Bizet’s Opera on the Global Stage (Cambridge University Press, 2020), enillydd gwobr 2021 y Gymdeithas Gerddorol Frenhinol am gasgliad golygedig eithriadol. I ategu’r llyfr ceir gwefan ryngweithiol: ww.CarmenAbroad.org.
Cerddolegydd cyhoeddus yw’r Athro Rowden, sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfnewid gwybodaeth, ac mae’n ysgrifennu nodiadau rhaglen yn rheolaidd ar gyfer yr Opéra-Comique, Paris, Gŵyl Opera Wexford, Opera Cenedlaethol Cymru, y Tŷ Opera Brenhinol, Opera Bilbao a Gŵyl Salzburg.