Croeso i'n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno chwech o Gymheiriaid newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2024, sy’n gweithio o fewn economeg a’r gwyddorau cymdeithasol, addysg a’r gyfraith.

Yr Athro William Housley FLSW

Cadeirydd mewn Cymdeithaseg
Prifysgol Caerdydd

Cadarnhawyd ei gyfraniad i Gymdeithaseg trwy ddyfarnu Econ DSc gan Brifysgol Caerdydd iddo yn 2013 am ei waith a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes dulliau ymchwil ansoddol a chymdeithasol, theori cymdeithasegol, astudio rheswm ymarferol, ethnomethodoleg, dadansoddi categoreiddio aelodaeth, rhyngweithio cymdeithasol a chymdeithaseg ddigidol. Roedd yr Athro Housley yn aelod o banel Cymdeithaseg Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (DU) 2021.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Housley.

Mae'n anrhydedd go iawn cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae gwaith Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn bwysig iawn i fywyd academaidd a chyhoeddus yn ystod cyfnod o drawsnewid cymdeithasol sylweddol a chyflym. Rwy'n edrych ymlaen at gefnogi gwaith rhagorol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a hyrwyddo ei hystod amrywiol o fentrau.

Yr Athro Wendy Larner FLSW

Llywydd ac Is-Ganghellor
Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Wendy Larner yn ddaearyddwr dynol a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei hymchwil i globaleiddio, llywodraethu a rhywedd. Mae hi wedi dal swyddi academaidd yn Seland Newydd a’r Deyrnas Unedig, ac wedi ymweld â Chanada, yr Unol Daleithiau a’r Almaen fel cymrawd gwadd. Ymhlith gwobrau eraill, mae hi wedi derbyn Medal Fictoria y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a Medal Daearyddwr Nodedig Seland Newydd. Mae hi’n gyn-lywydd Cymdeithas Frenhinol Te Apārangi ac yn gyn-Gadeirydd Fulbright Seland Newydd.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Larner.

Yr Athro Yvonne McDermott Rees FLSW

Athro'r Gyfraith
Prifysgol Abertawe

Yr Athro McDermott Rees yw awdur Fairness in International Criminal Trials (OUP, 2016) a Proving International Crimes (OUP, 2024). Hi yw Prif Ymchwilydd (ers 2022) TRUE, prosiect rhyngddisgyblaethol mawr a ddewiswyd i’w ariannu gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ac a ariennir gan UKRI. Mae’n archwilio effaith ffugio dwfn ar ymddiriedaeth mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr. Rhwng 2018 a 2021, bu’n arwain OSR4Rights, prosiect amlddisgyblaethol a ariennir gan yr ESRC, a archwiliai rôl tystiolaeth ffynhonnell agored mewn prosesau atebolrwydd hawliau dynol.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro McDermott Rees.

Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio'r cyfle hwn i hyrwyddo nodau pwysig y Gymdeithas, a chyfrannu at ei gwaith.

Yr Athro Roiyah Saltus FLSW

Athro Cymdeithaseg
Prifysgol De Cymru

Gwyddonydd cymdeithasol ac ymchwilydd-ymgyrchu yw’r Athro Saltus sy’n gweithio ym maes anghydraddoldeb iechyd ar sail lle, penderfynyddion cymdeithasol iechyd a gofal iechyd, ac arloesi gwasanaethau a pholisi. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae hi wedi’i gosod ei hun ar y rhyngwyneb rhwng polisi cyhoeddus, ymarfer a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chymdeithas sifil. Y diben yw canfod atebion, arferion a synwyrusrwydd sy’n ceisio gwella bywydau pobl a chymunedau, gan ystyried a gwerthfawrogi syniadau’r gorffennol wrth ddatblygu llwybrau gwybodaeth newydd arloesol a gesglir o ystod o safbwyntiau rhanddeiliaid.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Saltus.

Yr Athro Iram Siraj FLSW

Athro Addysg a Datblygiad Plant
Prifysgol Rhydychen

Addysgwyd yr Athro Siraj yng Nghaerdydd ac mae wedi dal swyddi ym Mhrifysgol Warwick, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Rhydychen. Mae wedi derbyn £25m mewn grantiau ymchwil ac wedi ysgrifennu 300 o gyhoeddiadau, sef llyfrau a phapurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid yn bennaf. Mae’r astudiaeth EPPSE ddwy flynedd ar bymtheg o hyd wedi dylanwadu ar ansawdd yn nyluniad y cwricwlwm ac addysgeg, ac ar bolisi ac ymchwil ym maes addysg cyn-ysgol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi cynghori nifer o Weinidogion Addysg Cymru ac yn 2015 dyfarnwyd OBE iddo am wasanaethau i addysg gynnar.

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Siraj.

Yr Athro Andrew Thomas FLSW

Athro a Phennaeth Ysgol Fusnes Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth

Mae Andrew Thomas yn Athro Rheoli Peirianneg ac ef yw Pennaeth Ysgol Fusnes Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys peirianneg fforensig, rheoli peirianneg, strategaeth gweithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Mae wedi cyhoeddi dros 220 o erthyglau ymchwil yn y meysydd hyn. Bu’n Brif Ymchwilydd ar nifer o brosiectau KTP, ERDF, EPSRC, EU FP7 a Horizon. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Consortiwm Penaethiaid Gweithgynhyrchu a Pheirianneg y DU (COMEH) ac yn aelod o Gyngor yr Athrawon Peirianneg (EPC UK).

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Thomas.