Croeso i'n Cymrodyr Newydd

Gan gyflwyno pedwar o Gymrodyr newydd sydd wedi eu hethol i’r Gymdeithas yn 2024, sy’n gweithio ym myd diwydiant, masnach, y celfyddydau a phroffesiynau.

Arweinyddiaeth mewn Ymgysylltu a Dealltwriaeth y Cyhoedd

Dr Aled Eirug FLSW

Cadeirydd
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Fel Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Dr Eirug oedd y pennaeth golygyddol ar gyfer darllediadau o etholiadau’r DU ac Ewrop a Refferendwm 1997 ar draws tri chyfrwng yn Gymraeg a Saesneg. Hefyd, lluniodd bolisi iaith leiafrifol ar gyfer y BBC yng Ngogledd Iwerddon ac, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, cynghorodd Swyddfa’r Llywydd ar wahanu’r Llywodraeth o’r corff seneddol. 

Fel academydd, arweiniodd ymchwil i’r mudiad heddwch yng Nghymru, a chyfrannodd yn sylweddol at fywyd cyhoeddus fel cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Coleg Cymraeg.

Darllenwch fwy am waith Dr Eirug.

Yr Athro Paul Mealor FRSE FLSW

Cyfansoddwr ac Athro Cyfansoddi
Prifysgol Aberdeen

Paul Mealor yw un o’r cyfansoddwyr byw y mae ei weithiau’n cael eu perfformio fwyaf yn y byd. Mae ei ddwy opera, ei pedair symffoni, ei gerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu, dros gant o weithiau corawl cyhoeddedig a chyfansoddiadau niferus ar gyfer ensemble wedi ymuno â’r repertoire a deryn gwobrau ac anrhydeddau lluosog. Mae’r rhain yn cynnwys enwebiad BAFTA (‘Wonders of the Celtic Deep’, Cyfres Hanes Natur Teledu BBC1 Wales, 2022), Gwobr Brit (2012) a dwy Wobr Classic Brit (2012, 2014) a Gwobr Fletcher of Saltoun Cymdeithas y Saltire (Comann Crann) am ei gyfraniad rhagorol i fyd y Celfyddydau a’r Dyniaethau (2020).

Mae ei weithiau comisiwn niferus ar gyfer achlysuron Brenhinol a chenedlaethol yn cynnwys ‘Ubi caritas’ (2011) ar gyfer Priodas EM Dug a Duges Caergrawnt; ‘Per Ardua ad Astra’ a gomisiynwyd gan Awyrlu Brenhinol EM fel emyn swyddogol cyntaf yr Awyrlu Brenhinol (2021); ‘I Shall Not Die, But Live’ ar gyfer Gwasanaeth Cenedlaethol yr Alban o Ddiolchgarwch am fywyd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II (2022) a ganwyd gan Karen Matheson mewn Gaeleg yn Eglwys Gadeiriol St Giles; ‘A Welsh Prayer’ ar gyfer Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru o Ddiolchgarwch am fywyd EM y Frenhines Elizabeth II (2022) a ganwyd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a dau waith ar gyfer Coroni’r Brenin Siarl III a’r Frenhines Camilla (2023) a berfformiwyd yn Seremoni’r Coroni, Abaty Westminster – Coronation Kyrie (a ganwyd gan Syr Bryn Terfel) a Fanfare (a berfformiwyd gan y Fanfare Band ar ôl coroni’r Brenin Siarl).

Darllenwch fwy am waith Yr Athro Mealor.

Dr Eurwyn Wiliam FLSW

Ceidwad Emeritws
Amgueddfa Cymru

Yn ei waith ymchwil mae Dr Wiliam yn canolbwyntio ar gartrefi a bywydau tlodion cefn gwlad o’r gorffennol, na roddwyd rhyw lawer o sylw iddynt yn flaenorol, ac ar hanesyddiaeth. Mae wedi hyrwyddo canlyniadau ei waith drwy gyhoeddiadau academaidd ac yn ehangach drwy gyfryngau, gan gynnwys arddangosfeydd parhaol mewn amgueddfeydd. Mae hyn wedi dylanwadu ar bolisi ac ymarfer cadwraeth cenedlaethol, ac wedi cryfhau dealltwriaeth y cyhoedd. Mae hefyd wedi meithrin ymchwil amlddisgyblaethol mewn dau sefydliad cenedlaethol ac wedi gwella eu cyfraniadau at gyfnewid a lledaenu gwybodaeth.

Darllenwch fwy am waith Dr Wiliam.

Rwy'n ystyried cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn anrhydedd mawr. Mae cael fy nghyfrif ymysg cwmni mor nodedig yn rhywbeth rwy'n ei drysori'n fawr, a byddaf yn gwneud fy ngorau i sicrhau bod fy ngwaith yn parhau mewn rhyw ffordd i gyfrannu at ein gwybodaeth am Gymru a'i lle yn y byd.

Llŷr Williams FLSW

Pianydd

Pianydd cyngerdd â repertoire helaeth yw Llŷr Williams.  Mae’n perfformio’n rheolaidd mewn neuaddau cyngerdd mawr yn rhyngwladol ac o fewn y DU, ac mae ganddo gysylltiadau hir â bron pob un o’r sefydliadau a’r gwyliau cerddorol yng Nghymru. Yn gyn Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC, mae wedi perfformio â holl brif gerddorfeydd y DU.

Darllenwch fwy am waith Llŷr Williams.